Cyfnod newydd i Lyfrgell Castell-nedd
Mawrth 28, 2023
Mae Llyfrgell Castell-nedd wedi’i leoli mewn safle awdurdodol yng nghanol Castell Nedd, yn edrych dros Erddi Fictoria’r dref, am yn agos i 120 o flynyddoedd. Wedi’i hadeiladu ym 1904 mae’r Llyfrgell Carnegie draddodiadol wedi gwasanaethu sawl cenhedlaeth o drigolion Castell-nedd a’r cymunedau cyfagos, ac mae’n un o adeiladau mwyaf poblogaidd y dref. Ond wrth i’r degawdau fynd heibio, roedd y dasg o ddarparu gwasanaeth llyfrgell cyfnewidiol o fewn cyfyngder adeilad Edwardaidd yn her gynyddol i’r Gwasanaeth Llyfrgell yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Yn dilyn adolygiad o lyfrgelloedd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn 2019 penderfynwyd y dylai’r Llyfrgell adleoli o fewn y dref. Mewn nifer o gyfarfodydd ymgynghori cyhoeddus cafodd problemau’r hen lyfrgell eu hamlygu a lluniwyd rhestr ddymuniadau o’r hyn y dylai’r llyfrgell newydd ei gynnig.
Ar yr un pryd â’r adolygiad, roedd canol tref Castell-nedd yn cael ei ailddatblygu gyda chynlluniau ar gyfer unedau manwerthu newydd a chanolfan hamdden. Wrth i staff gyflwyno achos i Gynghorwyr i gynnwys llyfrgell newydd fel rhan o’r ailddatblygiad, elfen allweddol o’r cais oedd tynnu sylw at fanteision gosod llyfrgelloedd yng nghalon adfywiad canol dref drwy greu canolfan y byddai llawer o bobl yn ymweld â hi.
Unwaith y cafodd Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot sêl bendith i’r adeilad newydd cafodd cais am arian i Lywodraeth Cymru, o dan y Rhaglen Grantiau Cyfalaf Trawsnewid, ei gyflwyno. Roedd y cais llwyddiannus hwn yn caniatáu i’r Gwasanaeth benodi FG Library and Learning i weithio ar y dyluniad mewnol.
Ar 1af o Chwefror, penllanw prosiect newydd Llyfrgell Castell-nedd oedd agor yr adeilad newydd. Nid yw wedi bod heb ei broblemau, yn bennaf rheoli’r prosiect yn ystod pandemig covid, ond mae’r ymateb cadarnhaol enfawr gan ymwelwyr wedi gwneud y cyfan yn werth chweil. Ni fyddai’n syndod i unrhyw un bod nifer yr ymwelwyr ers i lyfrgelloedd ailagor wedi bod yn araf ar ôl i gyfyngiadau covid gael eu llacio, ond yn ystod ei mis cyntaf mae’r llyfrgell newydd wedi mynd y tu hwnt i’r holl ddisgwyliadau. Mae nifer yr ymwelwyr, nifer yr eitemau a fenthycwyd ac aelodau newydd i gyd yn fwy na’r niferoedd cyn covid. Ardal arbennig o lwyddiant fu’r llyfrgell blant newydd sydd, yn wahanol i’r hen lyfrgell, bellach ar agor llawn amser ac wedi’i lleoli yng nghanol y llyfrgell newydd.
Yn arwain y prosiect hwn ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgell oedd Llyfrgellydd y Sir, Wayne John. Yn y cyfnod dylunio, bu Wayne yn gweithio gyda FG, a gyda’i gilydd fe geision nhw greu llyfrgell o ardaloedd penodol. Wrth i chi gerdded o amgylch y llyfrgell rydych chi’n bendant yn cael yr ymdeimlad o’r ardaloedd yma, gyda pob un yn unigryw ond ar yr un pryd yn ymgysylltu â gweddill y llyfrgell, ac os oeddech chi mewn unrhyw amheuaeth mae’n rhaid i chi weld sut mae ymwelwyr â’r llyfrgell yn addasu’n naturiol yn yr ardaloedd hyn, gan helpu i greu teimlad unigryw ynddynt. Ar ben hynny, dydych chi byth yn cael yr ymdeimlad bod un ardal yn amharu ar unrhyw un arall.
Nawr ei bod yn gwbl agored mae Llyfrgell newydd Castell-nedd nid yn unig yn nodi dechrau newydd i lyfrgelloedd yng Nghastell-nedd Port Talbot, ond mae hefyd yn nodi ymddeoliad Wayne John fel ein Llyfrgellydd Sirol. Wedi 46 o flynyddoedd yn gweithio yn sector y llyfrgell gyhoeddus yng Nghymru, mae Wayne yn ymddeol ddiwedd mis Mawrth. Bydd yn gadael etifeddiaeth a fydd yn parhau am flynyddoedd lawer yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac ar draws Cymru bydd ei gydweithwyr yn y byd llyfrgell yn colli ei wybodaeth eang, profiad helaeth o, a’i ymrwymiad i, lyfrgelloedd cyhoeddus. Rydym i gyd yn dymuno ymddeoliad hapus i Wayne a diolch iddo am ei gyfraniad i lyfrgelloedd.