Cyfrifiad 1921: ‘Mae’r hanes yma’n perthyn i ni i gyd’

Daeth Cyfrifiad Cymru a Lloegr 1921 yn fyw ar-lein am y tro cyntaf ar 6 Ionawr eleni.

Mae’r datganiad yn diweddglo prosiect digido tair blynedd gan gwmni hanes teulu FindMyPast, ar ran UK National Archives.

Gwelodd y prosiect 28,000 o gyfrolau rhwymiedig yn cael eu sganio a’u trawsgrifio, gyda cyfanswm o tua 18.2miliwn o dudalennau.

Mae’r dogfennau ar gael i’w gweld am ddim yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth – ac yn Lloegr, yn y National Archives yn Kew a Manchester Central Library.

Mae’r cofnodion, a gasglwyd dros ganrif yn ôl ar 19 Mehefin 1921, yn datgelu manylion newydd am bron i 38 miliwn o bobl oedd yn byw yng Nghymru a Lloegr bryd hynny.

Bydd haneswyr, ymchwilwyr ac amaturiaid hanes teulu yn gallu olrhain lle’r oedd unigolion a’u teuluoedd yn byw ac yn gweithio, yn ogystal â’r ieithoedd yr oeddent yn eu siarad.

Dywedodd FindMyPast, y cyntaf hefyd i gyhoeddi cyfrifiad 1911, mai cyfrifiad 1921 oedd ‘y cofnod mwyaf dadlennol a sefydlwyd hyd at y cyfnod hwnnw’.

‘Hwn oedd y cyfrifiad cyntaf i adnabod ysgariad, ac i gasglu manylion cyflogaeth pobl,’ ychwanega’r cwmni.

‘Am y tro cyntaf, fe welwch holl gyfrinachau a syrpreisys y teulu a ddaw yn sgil y cyfrifiad rhyng-ryfel hwn’

Sheet from 1921 Census English

© Crown Copyright Images reproduced by courtesy of The National Archives, London, and FindMyPast.

Dywedodd yr hanesydd Louvain Rees, sydd ar hyn o bryd yn cyd-ysgrifennu llyfr ar fywydau cleifion seilams Cymru, am y datganiad: ‘Bydd y wybodaeth a gesglir ar y cyfrifiad hwn yn fy helpu’n aruthrol.

‘Byddaf yn gallu olrhain y menywod yr wyf yn ymchwilio iddynt ar hyn o bryd, gan roi cipolwg i mi o’u hamgylchiadau personol cyn cael eu derbyn i’r seilams, gan ei fod bellach yn cynnwys cyflogaeth flaenorol a statws priodasol – sef gwybodaeth nad oes gennyf eisoes.

‘Mae’r cyfrifiad hwn yn arbennig o bwysig i haneswyr, gan mai hwn oedd y cyntaf yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd yn rhoi cipolwg newydd inni ar Gymru ar ôl y rhyfel, fel cyflogi milwyr ar ôl eu dymchwel, a nifer y milwyr mewn gofal sefydliadol. Mae’n dangos i ni effeithiau’r rhyfel ar unedau teuluol, gan gynnwys nifer uwch o fenywod a restrir fel gweddwon. Mae cyfrifiad 1921 yn dangos bod 730,000 o blant wedi’u rhestru fel ‘tad wedi marw’ vs 260,00 a restrir gyda ‘mam wedi marw’.

FindMyPast Census 1921 Record showing entry of John Ballinger

Cofnod Cyfrifiad 1921 FindMyPast yn dangos enw Syr John Ballinger (1860-1933), Llyfrgellydd cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. © Crown Copyright Images reproduced by courtesy of The National Archives, London and FindMyPast.

Er mwyn cael mynediad i Gyfrifiad 1921 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer tocyn darllenydd, y gellir ei wneud ar-lein. Ar hyn o bryd nid oes system archebu, fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei adolygu’n gyson yn dibynnu ar y galw, felly gwiriwch cyn i chi ymweld. Codir tâl am gael copi o bob trawsgrifiad cofnod unigol.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Mae rhagor o wybodaeth am Gyfrifiad 1921 ar gael ar-lein yn FindMyPast

Mae’r cyfrifiad yn ymarfer cymryd cofnodion sy’n digwydd bob deng mlynedd – cynhaliwyd y diweddaraf ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ym mis Mawrth 2021, tra bwriedir cynnal cyfrifiad yr Alban yn ddiweddarach eleni. Mae’r wybodaeth a ddarperir yn hysbysu llywodraethau, elusennau a sefydliadau eraill i gynllunio a chyllido ar gyfer anghenion demograffeg wahanol ledled y wlad.

Dywedodd Beryl Evans, Hanesydd Teulu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, er bod llawer o bobl yn defnyddio’r cyfrifiad i edrych ar hanes eu teulu, bod llawer o bobl yn chwilio ‘hanes eu tai ac wrth gwrs hanes cymdeithasol.’

Mae cyfrifiad canrif oed yn cael ei ryddhau unwaith degawd, er na fydd yr un nesaf ar gael tan fis Ionawr 2051.

Dywedodd Beryl: ‘Cymerwyd cyfrifiad 1931 ond yn anffodus cafodd ei ddinistrio gan dân a chanslwyd cyfrifiad 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd, felly’r un nesaf fydd cyfrifiad 1951 a ryddhawyd ym mis Ionawr 2051 – gobeithio y byddaf yn fyw i’w weld.’

Bydd canlyniadau cyfrifiad 2021 yn cael eu rhyddhau fesul cam dros y ddwy flynedd nesaf, gyda’r datganiad cyntaf yn ddisgwyliedig yn y gwanwyn eleni.

Cookie Settings