Cymryd Rhan a Chael Hwyl gyda Sialens Ddarllen yr Haf 2023: Ar eich Marciau, Darllenwch!

 

Sialens Ddarllen yr Haf yw rhaglen ddarllen er pleser fwyaf y DU i blant, a gyflwynir gan The Reading Agency mewn partneriaeth â llyfrgelloedd. Mae’r Sialens yn annog plant 4-11 oed i ddal ati i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf. Mae’r plant sy’n cymryd rhan yn gosod targedau darllen ac yn gallu darllen unrhyw beth maen nhw’n ei fwynhau! Benthycwyd dros 12 miliwn o lyfrau plant (gan gynnwys e-lyfrau a llyfrau sain) mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yn ystod y Sialens y llynedd. 

Profwyd bod y Sialens yn gwella hyder darllen plant yn sylweddol, gan sicrhau eu bod yn barod ar gyfer dychwelyd i’r ysgol yn yr hydref. Mae hefyd yn rhoi cyfle i deuluoedd gael mynediad at lyfrau a gweithgareddau hwyliog i’r teulu drwy gydol yr haf – i gyd am ddim. Mae’r Sialens yn cyrraedd tua 700,000 o blant bob blwyddyn, ac roedd 75% o’r plant a gymerodd ran y llynedd wedi gwella eu sgiliau darllen dros y gwyliau. Cynhelir y Sialens drwy gydol gwyliau’r haf yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Eleni, mae’r Sialens yn lawnsio yng Nghymru a Lloegr ar 8 Gorffennaf. 

Sut gall plant a theuluoedd gymryd rhan? 

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn rhedeg mewn 91% o lyfrgelloedd cyhoeddus, ac ar-lein trwy wefan swyddogol Sialens Ddarllen yr Haf. 

Gall plant gymryd rhan drwy eu llyfrgell leol, lle gallant fenthyg a darllen llyfrau, e-lyfrau a llyfrau llafar o’u dewis. Byddant yn casglu sticeri a gwobrau arbennig, a gallant fynychu digwyddiadau drwy gydol y gwyliau. Ar y wefan, gall plant gofrestru ar gyfer proffil Sialens am ddim a chael argymhellion darllen ac awgrymiadau ar gyfer cael mynediad i lyfrau am ddim o gartref. Mae siawns hefyd i adolygu llyfrau, datgloi gwobrau digidol, a cael mynediad i fideos, cystadlaethau a gemau. 

 

 

Ynglŷn â’r thema eleni: Ar eich Marciau, Darllenwch! 

Mae Sialens Ddarllen yr Haf eleni yn ymwneud â gemau a chwaraeon. Bydd plant yn ymuno â thîm ffuglennol (a’u masgotiaid anifeiliaid!) wrth iddynt ddefnyddio eu sgiliau i blethu eu ffordd trwy gwrs rhwystr dros yr haf. Wedi ei ddatblygu mewn cydweithrediad â’r Youth Sport Trust, bydd Sialens Ddarllen yr Haf 2023 yn dathlu chwarae a chadw’n heini, gan annog plant i gymryd rhan mewn gemau a chwaraeon mewn unrhyw ffordd sy’n gweddu orau iddynt. Bydd yr ymgyrch Ar eich Marciau, Darllenwch! yn arddangos sut y gall darllen fod yn ddeniadol a helpu plant gadw’n actif, a gall gynnwys gwaith tîm a creu cysylltiadau a’r gymuned. Daw’r Sialens yn fyw gan yr awdur a’r darlunydd plant talentog, Loretta Schauer. 

Crewyd y casgliad Ar eich Marciau, Darllenwch! Swyddogol gyda chymorth arbenigol llyfrgellwyr, athrawon, arbenigwyr y diwydiant llyfrau a chynrychiolwyr o’r Youth Sport Trust, a adolygodd nifer enfawr o argymelliadau gan cyhoeddwyr a dewis y goreuon. Mae’r rhestr lyfrau’n cynnwys nifer eang o deitlau gwych amrywiol, gan gwmpasu llyfrau lluniau, darllenwyr cynnar a theitlau gradd ganol, ac mae’n cynnwys nifer o lyfrau sy’n ystyriol o ddyslecsia. Dewiswyd y llyfrau i adlewyrchu 4 thema graidd yn ymwneud â’n menter chwaraeon a gemau: 

  • Gwaith tîm
  • Chwarae yn gwella dychymyg
  • Cymryd rhan a chael hwyl
  • Straeon ysbrydoledig

Bydd plant yn darganfod straeon cyffrous am chwarae a gwaith tîm sy’n dangos nad oes rhaid i chi ennill pethau i gael mwynhad wrth gymryd rhan! Mae’r casgliad llyfrau Cymraeg swyddogol wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â Chyngor Llyfrau Cymru. 

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Sialens Ddarllen yr Haf. 

Cookie Settings