Cymunedau Digidol Cymru yn Arwain Archwiliad Sgiliau Digidol Llyfrgell

 

Mae Cymunedau Digidol Cymru (CDC) wedi bod yn gweithio gyda’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i gyflwyno archwiliad sgiliau digidol i’r holl staff a gwirfoddolwyr llyfrgell. Mae’r archwiliad sgiliau digidol wedi’i fodelu ar Fframwaith Sgiliau Digidol Hanfodol Llywodraeth y DU. Bydd yn asesu sgiliau a hyder cyfranogwyr a’u gallu i helpu pobl ymgysylltu ar-lein.

Yn dilyn yr ymatebion i’r archwiliad sgiliau digidol, bydd tîm CDC yn creu dogfen wybodlen a fydd yn amlinellu’r ymatebion gan yr archwiliad sgiliau. Bydd y tîm wedyn yn datblygu cwrs chwech wythnos yn dilyn y canlyniadau, a fydd yn canolbwyntio ar gefnogi unrhyw fylchau sgiliau a nodwyd.

 

 

Mae enghraifft o raglen hyfforddi ar gael isod, cafodd y sesiynau hyfforddi hyn eu cynnal yn ystod peilot yr Archwiliad Sgiliau gyda gwasanaethau llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf a Gwynedd.

  1. Gwasanaethau cynhwysiant digidol a gwasanaethau’r llyfrgell: Archwilio’r hyn sydd ar gael a sut i gefnogi aelodau’r cyhoedd i ymgysylltu ar-lein.
  2. Hygyrchedd: Offer a lleoliadau digidol i gynyddu defnyddioldeb dyfeisiau digidol i aelodau’r cyhoedd.
  3. Diogelwch ar-lein: Y cyngor a’r cymorth gorau sydd ar gael ar gyfer cadw’n ddiogel ar-lein.
  4. Helpu pobl i ddefnyddio dyfeisiau gwahanol: Archwilio sut i gefnogi aelodau’r cyhoedd gyda dyfeisiau gwahanol er enghraifft Apple / Android / Laptops.
  5. Sgiliau Rhyngrwyd Hanfodol: Gwella sgiliau a gwybodaeth i esbonio’r rhyngrwyd yn hyderus ac yn syml i bobl sydd wedi’u heithrio’n ddigidol.
  6. Canolfannau ar-lein i ddinasyddion: Trosolwg o’r cyfleoedd a ddarperir drwy fod yn Ganolfan Ar-lein a sut i ymgysylltu â phobl sy’n hunan-addysgu ar-lein yn hyderus. Sesiwn ar y cyd â CDC a GTF (Good Things Foundation).

Yn dilyn yr hyfforddiant i ddatblygu sgiliau a hyder gyda staff a gwirfoddolwyr, bydd CDC yn ceisio penodi Hyrwyddwr Digidol ym mhob llyfrgell.  Bydd hyn yn helpu i gefnogi aelodau’r cyhoedd gyda’u sgiliau digidol a’u hyder.

Bydd Cymunedau Digidol Cymru yn annog llyfrgelloedd lleol i gofrestru fel Canolfannau Ar-lein. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan yr Online Centres Network . Gyda’u partneriaid rhaglen y Good Things Foundation, bydd y rhaglen hon o gefnogaeth a hyfforddiant yn cynyddu’r defnydd pellach o Learn My Way a’r Rhwydwaith Canolfannau Ar-lein ac yn darparu darpariaeth hanfodol i sgiliau a hyder digidol i gymunedau ledled Cymru.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwaith yma cysylltwch â Nick Moylan Nick.Moylan@Cwmpas.coop

Cookie Settings