Cynlluniau ar gyfer cerdyn llyfrgell i Gymru gyfan i wella gwasanaethau ac arbed arian
Medi 4, 2015Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun i gyhoeddi cerdyn llyfrgell i Gymru gyfan er mwyn i bobl gael defnyddio gwasanaethau llyfrgell ym mhob rhan or wlad a sicrhau arbedion o 70% i awdurdodau lleol ar eu gwariant.
Gydag un cerdyn llyfrgell, bydd pobl yn gallu cael benthyg llyfr o un llyfrgell unrhyw le yn y wlad ai ddychwelyd i unrhyw lyfrgell arall a defnyddio cyfrifiaduron llyfrgell, waeth ble maen nhw. Bydd cyfle hefyd i greu gwasanaeth cenedlaethol hwylus ar gyfer lawrlwytho e-lyfrau ac e-gylchgronau.
Maer cynllun gam yn nes heddiw wrth i Lywodraeth Cymru ddyfarnur contract fframwaith un cyflenwr i SirsiDynix, un o ddarparwyr systemau rheoli llyfrgelloedd mwyar byd, gyda chwsmeriaid mewn 70 o wledydd.
Ar hyn o bryd, wedi cofrestru gydag awdurdod lleol, dim ond llyfrgelloedd yr awdurdod hwnnw y mae pobl yn cael eu defnyddio. Bydd y system hon yn ffordd newydd a modern o wneud pethau gan ddod â manteision mawr i gwsmeriaid, er enghraifft ir rheini syn gweithio mewn awdurdod lleol gwahanol , gan roi mwy o ddewis i bawb.
Wrth i bob awdurdod lleol fabwysiadur un system yn hytrach na gweithredu rhai gwahanol fel ar hyn o bryd, bydd hynnyn golygu hyd at 70% o arbedion i awdurdodau lleol.
Meddair Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:
Maen hymrwymiad i helpu llyfrgelloedd i ddatblygu, gwella a moderneiddio yn parhau, er mwyn eu gwneud yn fwy cynaliadwy au helpu i ymdopin well âr heriau syn wynebu gwasanaethau ledled Cymru y dyddiau hyn.
Rwyn falch ein bod wedi rhoi contract un cyflenwr an bod gam yn nes at sefydlu cerdyn llyfrgell Cymru gyfan. Yn ogystal â gwellar gwasanaeth i ddefnyddwyr, byddai cerdyn or fath yn annog mwy o bobl i gofrestru a defnyddior gwasanaethau rhagorol sydd ar gael yn llyfrgelloedd y wlad.
Bydd awdurdodau lleol yn mabwysiadur system newydd yn raddol. Chwe awdurdod y gogledd fydd y cyntaf i wneud hynny, yn 2015-16.
Cafodd y contract ei drefnu gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS), corff a noddir gan Lywodraeth Cymru ac a sefydlwyd i sicrhau arbedion ir sector cyhoeddus, rhoi gwerth ei harian iddi a dod â manteision i economi Cymru.
Meddair Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt:
A hithaun gyfnod o wasgu mawr ar ein cyllidebau, maer Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn chwarae rhan hanfodol i arbed gwariant ar gontractau cyffredin ac eildro ym mhob rhan or sector cyhoeddus. Yn ogystal â sicrhau arbedion o 70% i awdurdodau lleol, bydd y contract newydd hwn yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau newydd ir cyhoedd fydd yn gwellau profiad o ddefnyddio llyfrgelloedd, pa le bynnag y maen nhw yn y wlad.
Dywedodd Is-lywydd Gwerthiannau SirsiDynix, Barbara Pacut:
Rydym yn rhannu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus cenedlaethol integredig ac rydym yn deall o brofiad bod y dechnoleg syn sail ir system yn sylfaenol. Y prosiect hwn ywn cyfle ni i roi profiad cwbl integredig, modern or radd flaenaf i bobl a staff gwasanaethau llyfrgell Cymru.
Meddai Steve Hardman, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell Abertawe ac aelod o Gymdeithas Prif Lyfrgelloedd Cymru:
Mae Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru wedi gweithin glos gyda Llywodraeth Cymru ar NPS i sicrhau bod y system newydd yn esgor ar fuddiannau ariannol a manteision in cwsmeriaid. O gofior hinsawdd economaidd, gobeithio y gallwn ddefnyddior arbedion i leihau effaith gostyngiadau pellach yng nghyllidebau llyfrgelloedd.