Cynlluniau ar gyfer cerdyn llyfrgell i Gymru gyfan i wella gwasanaethau ac arbed arian

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun i gyhoeddi cerdyn llyfrgell i Gymru gyfan er mwyn i bobl gael defnyddio gwasanaethau llyfrgell ym mhob rhan o’r wlad a sicrhau arbedion o 70% i awdurdodau lleol ar eu gwariant.

Gydag un cerdyn llyfrgell, bydd pobl yn gallu cael benthyg llyfr o un llyfrgell unrhyw le yn y wlad a’i ddychwelyd i unrhyw lyfrgell arall a defnyddio cyfrifiaduron llyfrgell, waeth ble maen nhw. Bydd cyfle hefyd i greu gwasanaeth cenedlaethol hwylus ar gyfer lawrlwytho e-lyfrau ac e-gylchgronau.

Mae’r cynllun gam yn nes heddiw wrth i Lywodraeth Cymru ddyfarnu’r contract fframwaith un cyflenwr i SirsiDynix, un o ddarparwyr systemau rheoli llyfrgelloedd mwya’r byd, gyda chwsmeriaid mewn 70 o wledydd.

Ar hyn o bryd, wedi cofrestru gydag awdurdod lleol, dim ond llyfrgelloedd yr awdurdod hwnnw y mae pobl yn cael eu defnyddio. Bydd y system hon yn ffordd newydd a modern o wneud pethau gan ddod â manteision mawr i gwsmeriaid, er enghraifft i’r rheini sy’n gweithio mewn awdurdod lleol gwahanol , gan roi mwy o ddewis i bawb.

Wrth i bob awdurdod lleol fabwysiadu’r un system yn hytrach na gweithredu rhai gwahanol fel ar hyn o bryd, bydd hynny’n golygu hyd at 70% o arbedion i awdurdodau lleol.

Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:

“Mae’n hymrwymiad i helpu llyfrgelloedd i ddatblygu, gwella a moderneiddio yn parhau, er mwyn eu gwneud yn fwy cynaliadwy a’u helpu i ymdopi’n well â’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau ledled Cymru y dyddiau hyn.

“Rwy’n falch ein bod wedi rhoi contract ‘un cyflenwr’ a’n bod gam yn nes at sefydlu cerdyn llyfrgell Cymru gyfan. Yn ogystal â gwella’r gwasanaeth i ddefnyddwyr, byddai cerdyn o’r fath yn annog mwy o bobl i gofrestru a defnyddio’r gwasanaethau rhagorol sydd ar gael yn llyfrgelloedd y wlad.”

Bydd awdurdodau lleol yn mabwysiadu’r system newydd yn raddol. Chwe awdurdod y gogledd fydd y cyntaf i wneud hynny, yn 2015-16.

Cafodd y contract ei drefnu gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS), corff a noddir gan Lywodraeth Cymru ac a sefydlwyd i sicrhau arbedion i’r sector cyhoeddus, rhoi gwerth ei harian iddi a dod â manteision i economi Cymru.
Meddai’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt:
“A hithau’n gyfnod o wasgu mawr ar ein cyllidebau, mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn chwarae rhan hanfodol i arbed gwariant ar gontractau cyffredin ac eildro ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus. Yn ogystal â sicrhau arbedion o 70% i awdurdodau lleol, bydd y contract newydd hwn yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau newydd i’r cyhoedd fydd yn gwella’u profiad o ddefnyddio llyfrgelloedd, pa le bynnag y maen nhw yn y wlad.”
Dywedodd Is-lywydd Gwerthiannau SirsiDynix, Barbara Pacut:
“Rydym yn rhannu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus cenedlaethol integredig ac rydym yn deall o brofiad bod y dechnoleg sy’n sail i’r system yn sylfaenol. Y prosiect hwn yw’n cyfle ni i roi profiad cwbl integredig, modern o’r radd flaenaf i bobl a staff gwasanaethau llyfrgell Cymru.”

Meddai Steve Hardman, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell Abertawe ac aelod o Gymdeithas Prif Lyfrgelloedd Cymru:

“Mae Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru wedi gweithi’n glos gyda Llywodraeth Cymru a’r NPS i sicrhau bod y system newydd yn esgor ar fuddiannau ariannol a manteision i’n cwsmeriaid. O gofio’r hinsawdd economaidd, gobeithio y gallwn ddefnyddio’r arbedion i leihau effaith gostyngiadau pellach yng nghyllidebau llyfrgelloedd.”

Cookie Settings