Darllenwyr ifanc wrth eu bodd gyda digwyddiadau awdur Sialens Ddarllen yr Haf

 

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi bod yn cynnal digwyddiadau cyffrous i awduron mewn llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru’r haf yma i ysbrydoli a diddanu darllenwyr ifanc!

Mae darllenwyr ifanc yng Nghymru wedi bod wrth eu bodd gyda digwyddiadau awdur wedi eu cyflwyno gan Leisa Mererid, Sophie Zalayet ac Ian Brown i hyrwyddo Sialens Ddarllen yr Haf eleni.

Dechreuodd y digwyddiadau yn Ninbych, pan wnaeth darllenwyr ifanc o’r ysgol leol Ysgol Twm o’r Nant baratoi i fynd i’r afael â Sialens Ddarllen yr Haf eleni gyda’r awdur Leisa Mererid mewn digwyddiad lansio yn Llyfrgell Dinbych ar y 10fed o Orffennaf.

Fe roddodd yr awdur dechrau da i’r dosbarth o Ysgol Twm o’r Nant wrth gyflwyno ei llyfr Y Wariar Bach gyda symudiadau ioga ac ymarferion anadlu.

 

Leusa Mererid yn Llyfrgell Dinbych gyda disgyblion Ysgol Twm o'r Nant   

Mae Sialens Ddarllen yr Haf eleni, Crefftwyr Campus, wedi bod yn dathlu creadigrwydd o bob math – dawnsio a darlunio, gwneud modelau allan o sbwriel a miwsig – mae rhywbeth wedi bod at ddant pawb.

Crëwyd y Sialens gan yr elusen genedlaethol The Reading Agency, gyda’r nod o gadw plant yn darllen dros wyliau’r haf, gyda digwyddiadau, gweithgareddau a llyfrau gwych – i gyd ar gael am ddim o’u llyfrgelloedd lleol.

Leusa Mererid yn Llyfrgell Dinbych gyda disgyblion Ysgol Twm o'r Nant

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Rwy’n gwybod cymaint o bleser yw ymgolli mewn llyfr da. Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wych i blant ddatblygu eu sgiliau darllen, darganfod awduron newydd ac i feithrin angerdd gydol oes tuag at lyfrau.

“Dyna pam yr ydym yn ariannu’r cynllun hwn eto eleni i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i barhau i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf.”

Cynhaliwyd digwyddiadau hefyd yn Llyfrgelloedd Caerffili a Llyfrgelloedd Awen, gyda’r awdures Sophie Zalayet yn sôn am ei llyfr plant newydd, wedi’i gyhoeddi gan Rily, Look out! Look out! There’s a Litter Bug About – mae’n stori hwyliog, ysgafn wedi’i chymeradwyo gan Keep Wales Tidy ac yn berffaith ar gyfer dysgu rhai bach am gadw ein hamgylchedd yn lân ac yn iach. Mae’r teitl hefyd ar gael yn Gymraeg, Dyna Fe! Dyna Fe! Sbwrfilyn y Dre. 

Dyna Fe! Dyna Fe! Sbwrfilyn y Dre

Dechreuodd Sophie ei gyrfa yn Nenmarc lle bu’n gweithio fel dylunydd i gwmni LEGO, ac wedi gweithio yn niwydiant teganau a ffasiwn blant yn Efrog Newydd. Ers hynny mae hi wedi symud gyda’i theulu ifanc yn ôl i Gymru, ac wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd.

Ar ôl cofrestru mewn dosbarthiadau ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd a mynychu dosbarthiadau ysgrifennu a dylunio llyfrau plant, mae hi wedi adeiladu casgliad o’i straeon a’i darluniau ei hun, gan gynnwys ei llyfr newydd Look Out! Look Out! There’s a Litterbug about.

“Mae Rhys yn caru dau beth… Prynhawn hwyl yn y ffair a bwyta bola llawn losin! Pan mae Mam yn addo’r ddau, mae’n meddwl mai ei ddiwrnod lwcus ydi o! Neu a yw e… Dewch ar antur ddisglair, feiddgar a chalonnog gyda Rhys a’i ffrind newydd, wrth iddo ddysgu gwers bwysig iawn.”

Cynhaliodd Sophie ddigwyddiadau Sialens yr Haf yn y llyfrgelloedd canlynol:

  • Dydd Mercher 21 Awst – Canolfan Llyfrgell Rhymni
  • Dydd Mercher 21 Awst – Llyfrgell Deri
  • Dydd Mercher 28 Awst, Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr

Sophie Zalayet in Summer Reading Challenge promotion event

Roedd y plant a oedd yn mynychu’r digwyddiadau wedi cael cyfle i wrando ar Sophie yn darllen y stori, a chreu bygiau sbwriel eu hunain. Meddai Sophie:

“Yn ystod yr ymweliad, fe wnaethon ni ddarllen y stori, profi ein dealltwriaeth am sbwriel gyda chwis, a didoli ‘sbwriel Rhys’ gan ei helpu i roi’r mathau o sbwriel yn y bin cywir.

“Fodd bynnag, gan fod y mynychwyr yn llawer iau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fe wnes i ychwanegu fy ngêm ‘taflu sbwriel i geg y Byg Sbwriel! Cafodd y plant iau tipyn o sbort wrth iddyn nhw fwynhau ceisio bwydo’r Byg Sbwriel!”

Gwyliwch fideo Facebook o Sophie yn darllen allan o’i llyfr newydd.

Gallwch ddarllen mwy am Sophie yn yr erthygl diweddar Awdur y Mis Llyfrgelloedd Cymru

Sophie Zalayet in Summer Reading Challenge promotion event

Ian Brown yw crëwr y gyfres swynol Albert y Crwban (Albert the Tortoise) a gyhoeddir gan Graffeg. Yn ystod digwyddiadau Sialens Ddarllen yr Haf eleni, bu’r awdur yn ymweld â Llyfrgelloedd Abertawe, lle bu’n darllen o’i lyfrau diweddaraf a rhannu anturiaethau Albert a’i ffrindiau ynghyd â llawer o ffeithiau hwyliog am grwbanod, gyda phropiau, sticeri a hyd yn oed dyblygiad Albert!

Ian Brown in Summer Reading Challenge promotion event

Mae Ian yn awdur a chynhyrchydd teledu yn Llundain, ac mae wedi ysgrifennu a chynhyrchu ar gyfer Pierce Brosnan, Harrison Ford a Michael Caine ymysg nifer o enwogion eraill! Cyfres Albert the Tortoise yw’r un gyntaf i Ian greu i blant, gyda darluniau gan y dylunydd talentog Eoin Clarke. Mae’r teitlau yn cynnwys llyfrau yn y Gymraeg a’r Saesneg yn cynnwys Albert Ben i Lawr, Albert Anferth ac Albert yn yr Awyr.  

Albert a'r Gwynt   Albert Anferth

Mae’r llyfrau’n llawn darluniau comig, swynol, ac mae’r anturiaethau diamser yn arddangos y pŵer o weithio gyda’n gilydd, helpu eraill, meddwl yn greadigol a sut y gall hyd yn oed y cymorth lleiaf wneud gwahaniaeth mawr iawn. Hefyd wedi’i gynnwys yn y llyfrau darluniadol mae ffeithiau diddorol am Albert y crwban go iawn – mae Albert yn seiliedig ar anifail anwes yr awdur ei hun, sy’n fwy na 80 oed ac sydd wedi bod yn nheulu Ian ers dros 50 mlynedd!

Cynhaliodd Ian ddigwyddiadau Sialens Ddarllen yr Haf yn y llyfrgelloedd canlynol:

  • Dydd Mawrth 27 Awst – Llyfrgell Tregŵyr
  • Dydd Mawrth 27 Awst – Llyfrgell Townhill

Mwy am Ian Brown ac Eoin Clarke ar dudalen we Albert the Tortoise.

Mwy o wybodaeth yma am Sialens Ddarllen yr Haf a gwaith Cyngor Llyfrau Cymru.

Cookie Settings