Dathlu’r rôl hanfodol y mae llyfrgelloedd yn chwarae wrth drawsnewid bywydau a chryfhau cymunedau

Mae Wythnos Llyfrgelloedd: Llyfrgelloedd yn Newid Bywydau 2025 (2-8 Mehefin) yn dathlu’r rôl hanfodol y mae llyfrgelloedd yn chwarae wrth drawsnewid bywydau a chryfhau cymunedau.

Mae Llyfrgelloedd yn Newid Bywydau yn ymgyrch eiriolaeth sy’n adlewyrchu ar ac yn dathlu effaith llyfrgelloedd, gan roi’r sector ar blatfform cyhoeddus lle gall llyfrgelloedd, staff llyfrgelloedd a defnyddwyr llyfrgelloedd arddangos gwerth eu gwasanaeth – yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae thema eleni, Wythnos Llyfrgelloedd: Llyfrgelloedd yn Newid Bywydau trwy gynnal twf economaidd yn tynnu sylw at sut y gall gwasanaethau llyfrgell helpu i adeiladu economi gynaliadwy – boed hynny trwy wella canlyniadau iechyd y GIG; helpu busnesau newydd i ddechrau; darparu cymorth i ddefnyddwyr sy’n dymuno mynd i mewn i waith neu addysg, neu i gael mynediad at fudd-daliadau; cefnogi addysg mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion; neu helpu’r economi dyfu yn uniongyrchol trwy helpu busnesau i wneud y penderfyniadau cywir, yn seiliedig ar dystiolaeth.

Mae’r astudiaethau achos isod yn dangos sut mae gweithwyr proffesiynol gwybodaeth a rheolwyr gwybodaeth wrth wraidd cyflawni twf economaidd i’w cymunedau lleol a chenedlaethol yng Nghymru.

Darllen ar y Cyd yn Llyfrgelloedd Conwy 

Mae Steve Stratford yn gynorthwyydd llyfrgell mewn tîm o naw o staff Llyfrgelloedd Conwy yng ngogledd Cymru sydd wedi’u hyfforddi i gynnal grwpiau Darllen ar y Cyd gan yr elusen genedlaethol The Reader. Mae’n sôn yma am y gwahaniaeth mawr y mae’r grŵp wedi’i wneud wrth i’r aelodau – a Steve ei hun – fagu hyder.

Mae llyfrgelloedd wedi newid cryn dipyn – does dim disgwyl i bobl gadw’n dawel ynddyn nhw mwyach

Grwp Darllen ar y Cyd yn Llyfrgelloedd Conwy

Mae’r cyn-newyddiadurwr Steve Stratford wedi bod yn Gynorthwyydd Llyfrgell yn Llyfrgell Conwy ers wyth mlynedd. Ddwy flynedd yn ôl, roedd Steve ymysg criw o naw o gydweithwyr Llyfrgelloedd Conwy a  gafodd hyfforddiant i fod yn ‘Arweinwyr Darllen’ ar ran The Reader, yr elusen fwyaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer darllen ar y cyd.  

Cynhelir grwpiau bob wythnos a phob pythefnos bellach, yn Llyfrgelloedd Abergele, Conwy, Bae Colwyn, Llandudno a Llanrwst. Mae’r grwpiau’n rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb ymuno yn yr awyrgylch cyfeillgar, cynhwysol heb gael eu beirniadu, a gall pobl leol greu cysylltiadau a rhannu profiadau drwy straeon a phenillion. Does dim pwysau ar neb i siarad na darllen yn uchel.  

Shared Reading with Conwy Libraries. Photo credit: The Reader

Meddai Steve: “Mae llawer o’r bobl sy’n cymryd rhan wedi ymddeol ac maen nhw’n dod ymlaen yn wych efo’i gilydd. Mae’n griw bach hyfryd; maen nhw wedi dod yn ffrindiau drwy Ddarllen ar y Cyd. Mae’r lle’n llawn o hwyl a chwerthin. Rydyn ni wedi cael un neu ddau o ddynion yn dod i’r grŵp, gan gynnwys un gŵr bonheddig oedd yn ddall. Fe symudodd yma o Fanceinion ac wedi clywed sôn am Ddarllen ar y Cyd. Roedd o’n mwynhau gwrando ar y straeon. Dwi wrth fy modd yn ei wneud o – mae’n fendigedig creu cysylltiadau â phobl drwy lyfrau. Rydyn ni’n darllen am rywfaint cyn cael seibiant, rhannu ein teimladau a chael paned. Rydych chi’n dod i adnabod pobl – dyna beth sydd mor hyfryd am lenyddiaeth.”

Mae’r cyn-ohebydd a golygydd, a fu’n gweithio i bapur rhanbarthol yn y Gogledd, yn dweud y bu wrth ei fodd â geiriau a llyfrau erioed. Fel cynorthwyydd llyfrgell ac arweinydd y grŵp, roedd hi’n braf iddo weld pobl yn magu hyder drwy Ddarllen ar y Cyd.

Meddai Sharon Morgan, Pennaeth Dros Dro’r Adain Diwylliant, Llyfrgelloedd a Gwybodaeth yng Nghonwy: “Mae Darllen ar y Cyd wedi ennill ei blwyf yn narpariaeth Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy. Mae darllen a thrafod yn annog pobl i ddeall ac ymddiried yn ei gilydd ac mae yno ymdeimlad o berthyn ymhob grŵp, sydd wedi ehangu rhwydweithiau cymorth a chyfeillgarwch y bobl sy’n cymryd rhan. Mae’n gyfuniad rhyfeddol o lenyddiaeth wych a phobl yn cyfrannu o’r galon.”

I gael mwy o wybodaeth am Ddarllen ar y Cyd, ewch i wefan The Reader ac i ddysgu mwy am Ddarllen ar y Cyd yng Ngwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy, ewch i Llyfrgelloedd Conwy neu ffoniwch 01492 576139.

Lluniau drwy gwrteisi i The Reader.

Sialens 21 Llyfr Llyfrgelloedd Awen

Dewiswyd Llyfrgelloedd Awen yn Lyfrgell Gymreig y Flwyddyn yn y British Book Awards 2025, o ganlyniad i lwyddiant ei Sialens 21 Llyfr gyntaf erioed, sydd wedi bod yn annog oedolion i archwilio teitlau llyfrau ac awduron newydd, darganfod amrywiaeth o genres newydd ac ehangu eu gorwelion darllen.

Ers ei lansio yng nghanol 2024, mae dros 600 o oedolion wedi recordio’r llyfrau maent wedi darllen gan ddefnyddio taflen bingo Sialens 21 Llyfr ac wedi casglu gwobrau, gan gynnwys llyfrnodau pwrpasol, mygiau teithio, bagiau tote a thywelion te, ar hyd y ffordd. Derbyniodd y person cyntaf i gwblhau’r sialens lyfr pren wedi’i wneud â llaw.

21 Book Challenge

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Rydym yn falch iawn bod panel beirniaid y British Book Awards wedi dewis Llyfrgelloedd Awen fel enillydd rhanbarthol a gwladol Cymru. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dyst i’r gwaith caled parhaus gan ein cydweithwyr llyfrgell, sydd wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ymgysylltu â phobl yn ein cymunedau lleol nad ydynt efallai yn darllen yn rheolaidd er pleser neu’n ymweld â’n llyfrgelloedd.

“Pan wnaethom lansio’r her, a gafodd ei chefnogi’n garedig gan gyllid Llywodraeth y DU mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, roedden ni’n gobeithio, ond yn sicr nid oeddem yn disgwyl i gymaint o bobl gymryd rhan. Rydym wedi bod wrth ein bodd gan faint o’r rhain sydd wedi dweud wrthym pa mor bleserus maen nhw wedi gweld y profiad o ddarllen llyfrau na fyddent fel arfer wedi’u codi.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd John Spanswick:

“Nid yw estyn allan i’r gymuned mewn ymgais i ehangu a datblygu eu harferion darllen yn gamp hawdd. Fodd bynnag, mae llwyddiant y Sialens 21 Llyfr yn dangos arloesedd, creadigrwydd ac ymroddiad staff llyfrgell ledled y fwrdeistref sirol.

Mae nifer y trigolion sy’n rhan o’r her hefyd yn tynnu sylw at sut mae llyfrgelloedd yn parhau i fod yn un o sylfeini cymuned, gyda phobl yn awyddus i ymgysylltu a dod at ei gilydd, gan ddefnyddio darllen a’u llyfrgelloedd lleol fel modd i wneud hyn.

Dywedodd Karen Napier MBE, Prif Swyddog Gweithredol, The Reading Agency:

“Mae ceisiadau eleni ar gyfer Llyfrgell y Flwyddyn wedi bod yn eithriadol, gan arddangos y dyfeisgarwch a’r arloesedd y mae llyfrgelloedd yn eu harneisio bob dydd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Fodd bynnag, roedd yr enillwyr rhanbarthol a gwladol yn sefyll allan am eu creadigrwydd a’u heffaith. O ddigwyddiadau ar raddfa fawr, rhaglennu gyda phartneriaid lleol amrywiol, i fentrau gofalus a thargedu fel clwb llyfrau i oedolion â syndrom Down, mae’r enillwyr hyn yn enghraifft o bŵer llyfrgelloedd i ymgysylltu â chymunedau mewn ffyrdd ystyrlon. Fel sefydliadau angori cymunedol, roedd rôl hanfodol partneriaid lleol llyfrgelloedd wrth gyflwyno’r gweithgareddau hyn yn disgleirio, ac roedd y llyfrgelloedd ar y rhestr fer yn dangos sut olwg fyddai ar etifeddiaeth barhaol eu prosiectau yn lleol.”

Ymweliadau Awduron Ser y Silffoedd yn Cysylltu Plant â Llythrennedd 

“Sêr y Silffoedd” yw’r prosiect diweddaraf sy’n cael ei chyd-lynu gan Gyngor Llyfrau Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Pwrpas y prosiect yw gwahodd awduron i gynnal gweithdai i blant ysgol a hynny mewn llyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru.

Mae’r prosiect yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2025 ac mi fydd dros 25 o awduron o Gymru wedi cael y cyfle i gynnal sesiynau i tua 4,500 o blant a hynny mewn 75 llyfrgell ar hyd a lled Cymru.

Yn un o’r sesiynau diweddar, fe wnaeth yr awdur Mari Lovegreen ymweld â Llyfrgell Machynlleth, er mwyn cyflwyno ei llyfr newydd Llyfr Sgrap Macs Sion i blant Ysgol Bro Hyddgen.

Mari Lovegreen yn ymweld ag ysgolion

Yn ôl adroddiad ymchwil diweddaraf y National Literacy Trust,

“Mae mwy o blant a phobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o sesiwn awdur yn dweud eu bod nhw’n mwynhau darllen yn eu amser hamdden o’i gymharu a’u cyfoedion sydd heb fod mewn sesiwn awdur. (58.6% vs. 39.3%).”

Mae hyn heb os yn amlygu pwysigrwydd sesiynau awdur er mwyn gallu cysylltu plant â llythrennedd. 

Jaziea Farag, llyfrgell canolog Caerdydd, Ysgol St Cuthberts

Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel a’r plant wrth eu boddau yn cwrdd ag awduron go iawn ac yn cael eu hysbrydoli ganddynt. Mae hefyd wedi bod yn gyfle gwych i’r miloedd o blant yma cael ymweld â’u llyfrgell leol a fydd gobeithio yn eu hannog i ymweld eto yn y dyfodol.

Anrhydeddu Llyfrgelloedd am Gynnig Croeso Cynnes

Mae gwasanaeth llyfrgell lleol poblogaidd yn Abertawe wedi’i anrhydeddu am gynnig croeso cynnes i bobl sy’n ceisio noddfa.

Y rhwydwaith o lyfrgelloedd a gynhelir gan Gyngor Abertawe, yw’r cyntaf yng Nghymru i ennill statws Llyfrgell Noddfa (Library of Sanctuary).

Mae Llyfrgelloedd Noddfa (Libraries of Sanctuary) yn rhwydwaith o lyfrgellwyr, staff llyfrgell, grwpiau cymunedol ac unigolion sy’n caru llyfrau yn codi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n wynebu pobl yn y system loches, yn cynnig cefnogaeth a chyfleoedd cyfranogi, ac yn cyfrannu at ddiwylliant o groeso yn y gymuned ehangach.

Mae gwobr Llyfrgelloedd Noddfa yn cydnabod ac yn dathlu’r llyfrgelloedd sy’n mynd y tu hwnt i’r arfer i ddangos undod a chroeso, a gall unrhyw lyfrgell wneud cais am y wobr.

Swansea Library Staff who received the Award

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Elliot King,

“Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig croeso cynnes i bawb, gan gynnwys y rhai sy’n dod yma am amrywiaeth o resymau. Mae gan y gwasanaeth ddetholiad mawr o lyfrau mewn ieithoedd tramor ac mae’n cynnig rhaglen weithgareddau barhaus ar gyfer pobl o bob oedran. Mae’r gweithgarwch hwn, yng nghanol eu cymunedau ar draws y ddinas a’r sir, yn ategu statws balch Abertawe fel Dinas Noddfa (City of Sanctuary).”

Er mwyn sicrhau statws Llyfrgell Noddfa, roedd Abertawe’n destun proses achredu.

Mae gan Gyngor Abertawe 17 o lyfrgelloedd ar draws cymunedau lleol ac mae’n cynnig gwasanaeth dosbarthu ar gyfer cwsmeriaid nad ydynt yn gallu mynd i’w llyfrgell leol. Mae llyfrgellwyr yn cynnig nifer o wasanaethau digidol i aelodau. Roedd y rhaglen o ddigwyddiadau a gynigiwyd yr haf yma yn cynnwys Diwrnod Ffoaduriaid yn Llyfrgell Ganolog Abertawe.

Mae staff y Cyngor yn rhedeg llyfrgell Carchar Abertawe fel rhan o’r rhwydwaith, a dyma’r tro cyntaf i lyfrgell mewn carchar gael ei chynnwys ar gyfer gwobr Llyfrgell Noddfa.

Cadwch mewn cysylltiad

Cadwch mewn cysylltiad â’r ymgyrch Llyfrgelloedd yn Newid Bywydau a chael diweddariadau am astudiaethau achos, yr ymgyrch yn y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol, llyfrgelloedd sy’n cymryd rhan a’r effaith y mae’r ymgyrch yn ei chael ar wefan CILIP.

Cookie Settings