Dirprwy Weinidog yn ymrwymo i wasanaethau llyfrgell o safon
Chwefror 6, 2015Mae Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi mynegi ei ymrwymiad i barhau i ddarparu gwasanaethau cymunedol o safon i ddefnyddwyr llyfrgelloedd, er gwaethar amodau economaidd heriol presennol.
Roedd y Dirprwy Weinidog yn siarad cyn ir Diwrnod Cenedlaethol Llyfrgelloedd gael ei gynnal ddydd Sadwrn 7 Chwefror. Dywedodd fod Cymru ar flaen y gad o ran moderneiddio a darparu mwy nag un gwasanaeth mewn un lleoliad er mwyn sicrhau bod llyfrgelloedd yn fwy cynaliadwy ac yn cynnig profiad gwell ir defnyddiwr.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi bron i £1.7 miliwn i foderneiddio llyfrgelloedd ar draws Cymru ac i ddatblygu gwasanaethau.
Yn ogystal âr hyn sydd fel arfer yn cael ei ddarparu gan lyfrgelloedd, maer gwasanaeth newydd yn cynnwys creu canolfannau mewn llyfrgelloedd a chynnig cyfres o wasanaethau awdurdod lleol ac ystafelloedd cyfarfod.
Mae Cymru hefyd yn arwain y ffordd yn y DU drwy gyflwyno e-wasanaethau yn genedlaethol. Yr adnodd digidol diweddaraf i gael ei gynnig yw e-gylchgronau yn rhad ac am ddim. Mae e-lyfrau a phapurau newydd a gwasanaethau hanes teuluol ar-lein eisoes yn cael eu cynnig.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
Dw in cydnabod bod llyfrgelloedd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl o bob ardal ac o bob cefndir. Maen nhwn amlwg yn bwysicach nag erioed yn y cyfnod economaidd anodd hwn.
Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i gefnogi llyfrgelloedd i ddatblygu, gwella a moderneiddio fel eu bod, lle bynnag y bo hynnyn bosibl, yn gallu dod yn fwy cynaliadwy ac yn gallu ymdopi âr heriau y mae gwasanaethau ym mhob cwr o Gymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Daeth adroddiad diweddar ar lyfrgelloedd yn Lloegr ir casgliad nad oedd gwerth llyfrgelloedd yn cael ei gydnabod gan y rheini syn gwneud penderfyniadau a bod angen gwneud mwy i foderneiddio llyfrgelloedd. Dw in falch o ddweud nad yw hynnyn wir yng Nghymru.
Mewn gwirionedd, rydyn ni eisoes yn gweithredu amryw o argymhellion allweddol yr adroddiad hwnnw. Rydyn nin darparu Wi-Fi am ddim mewn canghennau syn agored am fwy na 30 o oriaur wythnos ac rydyn ni eisoes yn cynnal e-wasanaethau yn genedlaethol. Rhaid peidio ag anghofio chwaith ein rhaglen grantiau cyfalaf, sydd wedi rhoi cyllid i weddnewid 98 o lyfrgelloedd, gan fuddsoddi mwy na £13 miliwn er mwyn creu mannau modern, lliwgar a bywiog yn llyfrgelloedd Cymru.
Nid yw hin syndod felly bod yr hyn syn digwydd yng Nghymru yn wahanol iawn i weddill y DU. Mae nifer y bobl syn benthyca o lyfrgelloedd cyhoeddus Cymru wedi codi bron 5 y cant yn ystod y 12 mis diwethaf, er bod y nifer wedi syrthio 4 y cant yn y DU yn gyffredinol.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog hefyd Mae llyfrgelloedd yn wynebu pwysau ariannol cynyddol a dw in cydnabod bod rhaid i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd. Ond, byddwn in annog pob awdurdod lleol i gydnabod gwerth cyfleusterau a gwasanaethau diwylliannol.
Dw i wedi ysgrifennu i bob awdurdod lleol yr wythnos hon iw hatgoffa o argymhellion ein Adolygiad Arbenigol o Lyfrgelloedd Cyhoeddus mai dim ond wedi i opsiynau gael eu costio y dylid bwrw ymlaen ag unrhyw newidiadau arfaethedig i wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys amserlenni priodol, asesiadau effaith ac ystyriaethau o ran cydweithio ag awdurdodau cyfagos neu bartneriaid cyflenwi eraill.