Dirprwy Weinidog yn ymrwymo i wasanaethau llyfrgell o safon

Mae Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi mynegi ei ymrwymiad i barhau i ddarparu gwasanaethau cymunedol o safon i ddefnyddwyr llyfrgelloedd, er gwaetha’r amodau economaidd heriol presennol.

Roedd y Dirprwy Weinidog yn siarad cyn i’r Diwrnod Cenedlaethol Llyfrgelloedd gael ei gynnal ddydd Sadwrn 7 Chwefror. Dywedodd fod Cymru ar flaen y gad o ran moderneiddio a darparu mwy nag un gwasanaeth mewn un lleoliad er mwyn sicrhau bod llyfrgelloedd yn fwy cynaliadwy ac yn cynnig profiad gwell i’r defnyddiwr.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi bron i £1.7 miliwn i foderneiddio llyfrgelloedd ar draws Cymru ac i ddatblygu gwasanaethau.

Yn ogystal â’r hyn sydd fel arfer yn cael ei ddarparu gan lyfrgelloedd, mae’r gwasanaeth newydd yn cynnwys creu canolfannau mewn llyfrgelloedd a chynnig cyfres o wasanaethau awdurdod lleol ac ystafelloedd cyfarfod.

Mae Cymru hefyd yn arwain y ffordd yn y DU drwy gyflwyno e-wasanaethau yn genedlaethol. Yr adnodd digidol diweddaraf i gael ei gynnig yw e-gylchgronau yn rhad ac am ddim. Mae e-lyfrau a phapurau newydd a gwasanaethau hanes teuluol ar-lein eisoes yn cael eu cynnig.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Dw i’n cydnabod bod llyfrgelloedd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl o bob ardal ac o bob cefndir. Maen nhw’n amlwg yn bwysicach nag erioed yn y cyfnod economaidd anodd hwn.

“Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i gefnogi llyfrgelloedd i ddatblygu, gwella a moderneiddio fel eu bod, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, yn gallu dod yn fwy cynaliadwy ac yn gallu ymdopi â’r heriau y mae gwasanaethau ym mhob cwr o Gymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

“Daeth adroddiad diweddar ar lyfrgelloedd yn Lloegr i’r casgliad nad oedd gwerth llyfrgelloedd yn cael ei gydnabod gan y rheini sy’n gwneud penderfyniadau a bod angen gwneud mwy i foderneiddio llyfrgelloedd. Dw i’n falch o ddweud nad yw hynny’n wir yng Nghymru.

“Mewn gwirionedd, rydyn ni eisoes yn gweithredu amryw o argymhellion allweddol yr adroddiad hwnnw. Rydyn ni’n darparu Wi-Fi am ddim mewn canghennau sy’n agored am fwy na 30 o oriau’r wythnos ac rydyn ni eisoes yn cynnal e-wasanaethau yn genedlaethol. Rhaid peidio ag anghofio chwaith ein rhaglen grantiau cyfalaf, sydd wedi rhoi cyllid i weddnewid 98 o lyfrgelloedd, gan fuddsoddi mwy na £13 miliwn er mwyn creu mannau modern, lliwgar a bywiog yn llyfrgelloedd Cymru.

“Nid yw hi’n syndod felly bod yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru yn wahanol iawn i weddill y DU. Mae nifer y bobl sy’n benthyca o lyfrgelloedd cyhoeddus Cymru wedi codi bron 5 y cant yn ystod y 12 mis diwethaf, er bod y nifer wedi syrthio 4 y cant yn y DU yn gyffredinol.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog hefyd  “Mae llyfrgelloedd yn wynebu pwysau ariannol cynyddol a dw i’n cydnabod bod rhaid i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd. Ond, byddwn i’n annog pob awdurdod lleol i gydnabod gwerth cyfleusterau a gwasanaethau diwylliannol.

“Dw i wedi ysgrifennu i bob awdurdod lleol yr wythnos hon i’w hatgoffa o argymhellion ein Adolygiad Arbenigol o Lyfrgelloedd Cyhoeddus mai dim ond wedi i opsiynau gael eu costio y dylid bwrw ymlaen ag unrhyw newidiadau arfaethedig i wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys amserlenni priodol, asesiadau effaith ac ystyriaethau o ran cydweithio ag awdurdodau cyfagos neu bartneriaid cyflenwi eraill.”

Cookie Settings