Dros 500 o geisiadau yn dod i law yng nghystadleuaeth Storïau Rygbi

Mae llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd wedi ymuno ag Undeb Rygbi Cymru i gynnal cystadleuaeth ar gyfer pobl ifanc i ddathlu rygbi yng Nghymru fel rhan o ddathliadau Cwpan Rygbi’r Byd sydd ar y ffordd.
Fe gaeodd y gystadleuaeth ddydd Llun a chafwyd dros 500 o geisiadau oddi wrth blant a phobl ifanc rhwng 7 ac 16 mlwydd oed o bob rhan o Gymru – roedd y ceisiadau yn cynnwys barddoniaeth, storïau byrion a ffilmiau ac yn mynd i’r afael ag amrywiaeth anhygoel o bynciau, o ddyfarnwyr awdurdodol, gwrachod, sombis, dreigiau, niweidiau, y Groggs i chwaraewyr rygbi wedi’u gwneud o siocled, jeli a melysion!!
Fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:
“Mae’r gystadleuaeth ffantastig hon wedi annog pobl ifanc i gofnodi eu profiadau rygbi yng Nghymru, boed nhw’n chwarae, yn gwylio neu’n clywed eu ffrindiau a’u teuluoedd yn siarad amdano – rydym wedi creu casgliad o storïau sy’n ffenestr siop i rygbi yng Nghymru o lawr gwlad hyd at berfformiadau’r tîm cenedlaethol.
“Mae’r gystadleuaeth hon wedi rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau digidol a llythrennedd mewn ffordd atyniadol a hwyliog. Mae adrodd storïau yn ffordd wych i bobl ifanc adael i’w dychymyg dyfu a dysgu mwy amdanynt eu hunain a’r byd o’u cwmpas, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y ceisiadau.”
Y cam nesaf yn y gystadleuaeth yw llunio rhestr fer – mae 30 beirniad o lyfrgelloedd, archifau, amgueddfeydd, sefydliadau academaidd a byd rygbi yn rhoi o’u hamser i farnu swp o’r ceisiadau.
Bydd y rhai sydd yn y rownd derfynol yn cael eu beirniadu gan banel arbennig o feirniaid sy’n cynnwys enwogion rygbi, awduron, llyfrgellwyr ac arbenigwyr ar y cyfryngau ac fe gyhoeddir enwau’r rhai fydd yn y rownd derfynol ddechrau Medi. Hyd yma mae’r panel beirniaid yn cynnwys:
Phil Grant Awdur/ Gweithgor Cwpan Rygbi’r Byd
Syr Gareth Edwards Cyn-chwaraewr/Llywydd Sefydliad y Deillion Caerdydd
Ken Skates AM Dirprwy Weinidog – Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Dan Anthony Awdur Cyfres Rugby Zombies
Dr Rhys Jones Cyflwynydd teledu/Cefnogwr Rygbi
Aneirin Karadog Bardd Plant Cymru 2013-15
Martin Daws Bardd Pobl Ifanc
Anni Ll?n Bardd Plant Cymru 2015-17
Gareth Davies Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru
Stephen Hanks Cyfarwyddwr Creadigol – Tantrwm
Ed Holden Mr Phormula (Artist Rap/Arbenigwr ar Bît Bocsio)

Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru Gareth Davies:
“Rwy’n dishgwl ymlaen yn fawr at ddarllen y ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth gyffrous hon. Fe wyddom fod rygbi yn chwarae rhan arbennig yn y seice cenedlaethol yng Nghymru a’r gobaith yw y bydd y gystadleuaeth hon yn manteisio ar boblogrwydd y gêm ymhlith plant ysgol a’n cynorthwyo i ymestyn mas at y rhai hynny sydd eto i ymddiddori yn y gêm.”
Bydd storïau’r rhai sydd yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn cael eu harddangos mewn arddangosfa newydd, Cofroddion a’r Bêl Hirgron yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o’r 8fed Medi a byddant hefyd yn cael eu gwahodd i lansiad yr arddangosfa ar 16 Medi 2015 i gasglu eu gwobrau.
Dywedodd Janice Lane, Cyfarwyddwr Addysg, Arddangosfeydd a Chyfryngau Digidol yn Amgueddfa Cymru – National Museum Wales:
“Mae hyn yn ffordd wych i bobl ifanc rannu eu hangerdd dros y gêm. Mae rygbi a llenyddiaeth yn rhannau pwysig o draddodiad a diwylliant Cymru.
“Rydym wrth ein boddau yn cynnal yr arddangosfa hon a fydd yn cyfuno’r ddau beth o flaen cystadleuaeth mor fawreddog.”
I gael gwybod mwy am y gystadleuaeth ewch i: www.rugbystories.wales/cy ac ymunwch â’r sgwrs am #storïaurygbi
Mae’r gystadleuaeth a’r digwyddiadau a gynhaliwyd yn ystod Mehefin/Gorffennaf yn cefnogi menter polisi arloesol newydd gan Lywodraeth Cymru, Cyfuno: Trechu Tlodi trwy Ddiwylliant sy’n cysylltu cyrff diwylliannol yn agosach at ei gilydd â rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion. Ar hyn o bryd mae Cyfuno: Trechu Tlodi trwy Ddiwylliant yn cael ei dreialu mewn chwe ‘Ardal Arloesi’ ledled Cymru. I gael gwybod mwy ewch i http://gov.wales/topics/cultureandsport/tackling-poverty-through-culture/?lang=cy

Cookie Settings