Claire Fayers

Cafodd yr awdur plant Claire Fayers ei magu yng Nghasnewydd, Gwent, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Yn 2019, dyfarnwyd bwrsariaeth Llenyddiaeth Cymru iddi i ddatblygu nofel, sef Storm Hound. Yn 2020, enillodd Wobr Tir na n-Og gyda Storm Hound, sy’n adrodd hanes Storm o Odin, ‘the youngest stormhound of the Wild Hunt that haunts lightning-filled skies’.

I ddathlu Mis Cenedlaethol Rhannu-Stori, gwnaeth y tim Estyn Allan ofyn i’r Awdur Claire Fayers rannu ei hatgofion o ymweld â’i llyfrgell leol a’r hyn y mae hi’n ei garu am lyfrau. Mae’r testun yn yr iaith Saesneg.

Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. #WelshLibrariesTogether

 

‘Share-a-Story Month’ gyda Claire Fayers

 

‘Ysgrifennu stori Dylwyth Teg’ gyda Claire Fayers
Cookie Settings