Daniel Morden

Ganwyd Daniel Morden yng Nghwmbrân, De Cymru, ac mae’n storïwr yn y traddodiad llafar ac yn awdur plant. Mae’n ail-adrodd straeon traddodiadol o wahanol ddiwylliannau, yn enwedig y Celtiaid a’r hen Roeg. Mae wedi perfformio ledled y byd, mewn ysgolion a theatrau, mewn gwyliau ac ar y radio. Mae ei lyfrau cyhoeddedig yn cynnwys casgliadau o straeon a chwedlau ac adroddiadau o’r mythau Groeg, yr olaf mewn gwaith ar y cyd â Hugh Lupton.

Mae wedi ennill adran Saesneg Gwobrau Tir na n-Og Cyngor Llyfrau Cymru ddwywaith, yn gyntaf yn 2007 ar gyfer Dark Tales from the Woods, yn seiliedig ar stori gwerin o Gymru, ac yna yn 2013 ar gyfer Tree of Leaf and Flame, casgliad o straeon yn adrodd y Mabinogion. 

Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. 

Yma, mewn cydweithrediad ag Estyn Allan, mae’n cyflwyno dwy stori, The Flying Ship a The Fiery Dragon

 

Estyn Allan mewn sgwrs gyda Daniel Morden

 

‘The Fiery Dragon’ gan Daniel Morden

 

 

‘The Flying Ship (Rhan 1)’ gan Daniel Morden

 

 

‘The Flying Ship (Rhan 2)’ gan Daniel Morden
Cookie Settings