Rhian Cadwaladr

Dyma gyfres o fideos Estyn Allan sy’n cynnwys yr awdur a’r actores, Rhian Cadwaladr. Addawodd Rhian iddi ei hun pan oedd yn ei harddegau y byddai’n sgwennu nofel rhyw ddydd. Er iddi ysgrifennu sgriptiau a sioeau i blant yn y cyfamser, roedd hi’n hanner cant cyn ysgrifennu ei nofel gyntaf Fi sy’n Cael y Ci. Yn dilyn honno ysgrifennodd nofel arall – Môr a Mynydd. Cyhoeddodd ei thrydedd nofel Plethu yng Ngorffennaf 2020.

Cynhyrchwyd y sgwrs efo Rhian Cadwaladr ar gyfer Estyn Allan gan Llyfrgelloedd Ceredigion a Llyfrgelloedd Abertawe.

Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. 

 

Estyn Allan yn cyflwyno Rhian Cadwaladr

 

Rhian Cadwaladr yn cyflwyno Fi Sy’n Cael y Ci

Rhian Cadwaladr yn cyflwyno Mor a Mynydd 

 

 

Cookie Settings