Francesca Reece

Magwyd Francesca Reece yn Rhuthun ac yn blentyn roedd yn aelod o Sgwad Sgwennu Sir Ddinbych. Wedi treulio ei hugeiniau ym Mharis, mae bellach yn byw yn Llundain. Enillodd wobr Desperate Literature yn 2019 am ei stori fer So Long Sarajevo/They Miss You So Badly.

Ar gyfer y cyfweliad Estyn Allan yma, fe ddychwelodd i lyfrgell ei phlentyndod ar drothwy cyhoeddi ei nofel gyntaf, Voyeur (Tinder Press), i sgwrsio am ei siwrne i ddod yn awdur cyhoeddedig.

Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. 

 

 

Cookie Settings