Nicola Davies
Tachwedd 9, 2021Mae Nicola Davies yn awdur arobryn, ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau i blant yn cynnwys The Promise, Tiny, A First Book of Nature a King of the Sky. Graddiodd Nicola mewn Sŵoleg o Goleg y Brenin, Prifysgol Caergrawnt, ac astudiodd gwyddau, ystlumod a morfilod cyn dod yn gyflwynydd ar gyfer The Really Wild Show ac Uned Hanes Naturiol y BBC.
Mae hi wedi bod yn ysgrifennu ar gyfer plant ers dros 20 mlynedd. Yn sail i holl waith ysgrifennu Nicola mae’r gred bod perthynas â natur yn hanfodol i bob person, a bod angen inni adnewyddu’r berthynas honno yn awr, yn fwy nag erioed. Mae Nicola yn byw yng Ngorllewin Cymru.