Sophie Anderson

Ganwyd yr awdures Sophie Anderson yn Abertawe, ac mae bellach yn byw yn Ardal y Llynnoedd. Mae ei gwaith ysgrifennu’n cael ei ysbrydoli gan straeon gwerin, yn enwedig yr atgofion am ei mamgu o Brwssia yn adrodd iddi yn Slafic pan oedd hi’n ifanc. Mae ei llyfrau wedi’u cyfieithu i dros ugain o ieithoedd.

Fel rhan o’r cynllun Estyn Allan, mae Sophie yn cyflwyno ei chyhoeddiadau, The House with Chicken Legs, The Girl Who Speaks Bear a The Castle of Tangled Magic (isdeitlau ar gael).

Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. #WelshLibrariesTogether

 
 
 
Cookie Settings