Chris Lloyd

Dechreuodd gyrfa ysgrifennu Chris Lloyd yn creu llyfrau teithio am wahanol rannau o Sbaen a Ffrainc cyn iddo roi’r cynnig ar ysgrifennu ffuglen trosedd. Yn 2010, dyfarnwyd bwrsari Llenyddiaeth Cymru iddo, a ganiataodd iddo dreulio amser yng Nghatalonia yn ymchwilio i’r gyfres Elisenda Domènech, yn cynnwys swyddog yn heddlu datganoledig Catalwnia yn ninas hardd Girona. 

Canlyniad ei ddiddordeb gydol oes yn yr Ail Ryfel Byd a’r ymwrthedd a’r cydweithio yn Ffrainc wedi’i feddiannu yw The Unwanted Dead (Orion), nofel gyntaf Chris wedi’i osod ym Mharis, sy’n cynnwys Ditectif Eddie Giral.

Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae Crime Cymru yn gydweithfa amrywiol o awduron trosedd, sy’n cynnwys ffuglen a llyfrau ffeithiol. Mae Estyn Allan a Crime Cymru gyda’i gilydd yn cyflwyno ‘Cydbechaduriaid’, sef cyfres o fideos yn cynnwys cyflwyniadau gan awduron Crime Cymru.

Dyma Estyn Allan yn cyflwyno Chris Lloyd …

 

Poster Cydbechaduriaid Wythnos 3

 

Cookie Settings