Gareth W. Williams
Tachwedd 22, 2021Mae Gareth W. Williams yn wreiddiol o’r Rhyl ond bellach yn byw yn Nelson, Caerffili. Bu’n gweithio ym myd addysg tan iddo ymddeol. Ysgrifennodd un nofel Gwenyn a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer 25 mlynedd yn ôl a throdd at ysgrifennu yn fwy o ddifrif ers ymddeol.
Nofelau dirgelwch yn hytrach na nofelau ditectif fyddai’r disgrifiad agosaf ar gyfer ‘Gwenyn’ yn ogystal â’r trioleg diweddaraf. Maen nhw i gyd yn sôn am fygythiadau allanol i’r gymdeithas Gymraeg a Chymreig.
Mae Y Teyrn, Y Llinach ac Yr Eryr wedi eu gosod yn nhref fechan glan y môr Y Berig ac yn fuan daw darllenwyr i sylweddoli nad yw’r delfryd o gymdeithas Gymraeg mor ddelfrydol ag y mae’n ymddangos. Mae’r tair nofel yn dilyn hanes Arthur Goss, ditectif sy wedi ymddeol ond sy am dreiddio i hanfod y gymdeithas ac mae’r hanesion yn dilyn ei gilydd dros gyfnod o rhyw ddwy flynedd.
Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae Crime Cymru yn gydweithfa amrywiol o awduron trosedd, sy’n cynnwys ffuglen a llyfrau ffeithiol. Mae Estyn Allan a Crime Cymru gyda’i gilydd yn cyflwyno ‘Cydbechaduriaid’, sef cyfres o fideos yn cynnwys cyflwyniadau gan awduron Crime Cymru.
Dyma Estyn Allan mewa sgwrs gyda Gareth W. Williams …