Gareth W. Williams

Mae Gareth W. Williams yn wreiddiol o’r Rhyl ond bellach yn byw yn Nelson, Caerffili. Bu’n gweithio ym myd addysg tan iddo ymddeol. Ysgrifennodd un nofel Gwenyn a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer 25 mlynedd yn ôl a throdd at ysgrifennu yn fwy o ddifrif ers ymddeol.

Nofelau dirgelwch yn hytrach na nofelau ditectif fyddai’r disgrifiad agosaf ar gyfer ‘Gwenyn’ yn ogystal â’r trioleg diweddaraf. Maen nhw i gyd yn sôn am fygythiadau allanol i’r gymdeithas Gymraeg a Chymreig.
Mae Y Teyrn, Y Llinach ac Yr Eryr wedi eu gosod yn nhref fechan glan y môr Y Berig ac yn fuan daw darllenwyr i sylweddoli nad yw’r delfryd o gymdeithas Gymraeg mor ddelfrydol ag y mae’n ymddangos. Mae’r tair nofel yn dilyn hanes Arthur Goss, ditectif sy wedi ymddeol ond sy am dreiddio i hanfod y gymdeithas ac mae’r hanesion yn dilyn ei gilydd dros gyfnod o rhyw ddwy flynedd.

Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae Crime Cymru yn gydweithfa amrywiol o awduron trosedd, sy’n cynnwys ffuglen a llyfrau ffeithiol. Mae Estyn Allan a Crime Cymru gyda’i gilydd yn cyflwyno ‘Cydbechaduriaid’, sef cyfres o fideos yn cynnwys cyflwyniadau gan awduron Crime Cymru.

Dyma Estyn Allan mewa sgwrs gyda Gareth W. Williams …

 

Cydbechaduriaid Wythnos 3

 

Cookie Settings