Gwen Parrott

Ganwyd a magwyd Gwen yn Sir Benfro, ac erbyn hyn mae’n byw ym Mryste. Bu’n gweithio’n gyson trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ei gyrfa fel cyfieithydd yn golygu taw hi sy’n cyfieithu ei nofelau ei hun. Mae ei nofelau’n cynnwys dwy gyfres yn Sir Benfro – mae’r gyfres gyntaf wedi’i gosod yn 1947, ychydig ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, a’i phrotagonist drwyddi draw yw Della Arthur, menyw yn ei 30au a phennaeth ysgol wledig fach. Mae’r ail gyfres yn gyfoes ac wedi’i gosod yn nhref ffuglennol Maeseifion sef yr unig gyson wrth i’r protagonyddion newid gyda phob llyfr. Mae wedi cael ei bendithio â pherthnasau agos sy’n feddygon a swyddogion yr heddlu sy’n golygu nad oes rhaid iddi fynd yn bell ar gyfer ymchwil!

Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae Crime Cymru yn gydweithfa amrywiol o awduron trosedd, sy’n cynnwys ffuglen a llyfrau ffeithiol. Mae Estyn Allan a Crime Cymru gyda’i gilydd yn cyflwyno ‘Cydbechaduriaid’, sef cyfres o fideos yn cynnwys cyflwyniadau gan awduron Crime Cymru.

Dyma Estyn Allan mewn sgwrs gyda Gwen Parrott …

 

Cydbechaduriaid posters

 

Mewn sgwrs gyda Gwen Parrott [Cymraeg]

In conversation with Gwen Parrott [English-medium]

‘Dechrau Ysgrifennu’ gyda Gwen Parrott / ‘Starting Writing’ with Gwen Parrott [Cymraeg]

‘Enwi Cymeriadau’ gyda Gwen Parrott / ‘Naming Characters’ with Gwen Parrott [Cymraeg]
Cookie Settings