Matt Johnson

Gwasanaethodd Matt Johnson fel milwr o 1975-78 a swyddog heddlu Metropolitan o 1978 -1999. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf Wicked Game gan Orenda Books ym mis Mawrth 2016. Cyhoeddwyd y dilyniant Deadly Game, ym mis Mawrth 2017, diweddglo End Game ym mis Mawrth 2018.

Yn 1999, rhyddhawyd Matt o’r heddlu gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma. Tra’n cael triniaeth, cafodd ei annog gan ei gwnselydd i ysgrifennu am ei yrfa a’i brofiad o lofruddiaeth, saethu a therfysgaeth. Cafodd Matt ei berswadio yn y pen draw i roi cynnig ar hyn, ac un noson, eisteddodd wrth ei gyfrifiadur a dechreuodd wehyddu ei nodiadau i waith ffuglen a dechreuodd cael effaith aruthrol ar ei gyflwr ei hun. Defnyddiodd ei wybodaeth fanwl a’i atgofion i greu’r hyn a ddisgrifiwyd gan lawer o ddarllenwyr fel hanes cyffrous a dilys o blismona a therfysgaeth fodern.

Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae Crime Cymru yn gydweithfa amrywiol o awduron trosedd, sy’n cynnwys ffuglen a llyfrau ffeithiol. Mae Estyn Allan a Crime Cymru gyda’i gilydd yn cyflwyno ‘Cydbechaduriaid’, sef cyfres o fideos yn cynnwys cyflwyniadau gan awduron Crime Cymru

Dyma Estyn Allan mewn sgwrs gyda Matt Johnson …

 

Poster Cydbechaduriaid Wythnos 2

 

 

Cookie Settings