Myfanwy Alexander

Magwyd Myfanwy Alexander yn Sir Drefaldwyn, ac ar ôl byw ym mhob cornel o Brydain dychwelodd i fagu chwech o ferched ger Llanfair Caereinion, Powys. Fel sgwennwr a darlledwr mae wedi cyfrannu i sawl rhaglen radio a theledu, gan gynnwys nifer o raglenni comedi a dychan. Enillodd wobr Sony am y gyfres gomedi The LL Files i Radio Wales yn 1999, a hi yw hanner tîm Cymru ar y Round Britain Quiz ar Radio 4. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf A Oes Heddwas? yn 2015, Pwnc Llosg yn 2016, Y Plygain Olaf yn 2017 a Mynd Fel Bom yn 2020.

Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae Crime Cymru yn gydweithfa amrywiol o awduron trosedd, sy’n cynnwys ffuglen a llyfrau ffeithiol. Mae Estyn Allan a Crime Cymru gyda’i gilydd yn cyflwyno ‘Cydbechaduriaid’, sef cyfres o fideos yn cynnwys cyflwyniadau gan awduron Crime Cymru.

Dyma Estyn Allan yn sgwrsio gyda Myfanwy Alexander …

 

Cydbechaduriaid Wythnos 4

 

 

 

 

Cookie Settings