Rosie Claverton

 
Magwyd Rosie Claverton yn Nyfnaint, a symudodd i Gaerdydd i astudio Meddygaeth ac fe mabwysiadodd Cymru fel ei chartref. Cyhoeddir ei chyfres droseddau yng Nghaerdydd The Amy Lane Mysteries gan Crime Scene Books. Rhwng ysgrifennu a meddygaeth, mae’n blogio am seiciatreg a seicoleg i awduron yn ei chyfres Freudian Script, gan argymell portreadau cywir a sensitif o bobl â phroblemau iechyd meddwl mewn ffuglen. Hi yw cyd-sylfaenydd Crime Cymru.

Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae Crime Cymru yn gydweithfa amrywiol o awduron trosedd, sy’n cynnwys ffuglen a llyfrau ffeithiol. Mae Estyn Allan a Crime Cymru gyda’i gilydd yn cyflwyno ‘Cydbechaduriaid’, sef cyfres o fideos yn cynnwys cyflwyniadau gan awduron Crime Cymru.

Dyma Estyn Allan yn cyflwyno Rosie Claverton …

 

Cydbechaduriaid posters

 

 

‘Pum Ffordd o Ychwanegu Realaeth / Five Ways to Add Realism’ gan Rosie Claverton.

‘Pum Penbleth Cyffredin / Five Common Confusions’ gan Rosie Claverton.
Cookie Settings