Thorne Moore

Ganwyd Thorne Moore yn Luton, a mae’n byw erbyn hyn yn Sir Benfro. Mae’n ysgrifennu dirgelion seicolegol, neu “noir domestig”, gan archwilio’r rheswm dros droseddau a’u canlyniadau, yn hytrach na manylion y troseddau eu hunain. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, A Time For Silence, gan Honno yn 2012, a’i rhaghanes, The Covenant, yn 2020. Cyhoeddwyd Motherlove a The Unravelling hefyd gan Honno. Mae Shadows (Lume), wedi’i osod mewn hen blasty yn Sir Benfro ac mae’n cael ei baru â Long Shadows (Lume), sy’n esbonio hanes a dirgelion yr un hen dŷ.

Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae Crime Cymru yn gydweithfa amrywiol o awduron trosedd, sy’n cynnwys ffuglen a llyfrau ffeithiol. Mae Estyn Allan a Crime Cymru gyda’i gilydd yn cyflwyno ‘Cydbechaduriaid’, sef cyfres o fideos yn cynnwys cyflwyniadau gan awduron Crime Cymru

Dyma Estyn Allan yn cyflwyno Thorne Moore …

 

Poster Cydbechaduriaid Wythnos 2

 

‘Amser Trosedd’ gan Thorne Moore / ‘Crime Time’ gan Thorne Moore.

 

Cookie Settings