Ewch i’ch Lyfrgell Leol yr haf Hwn i Gael Cyfle i Ddatrys Dirgelwch!
Gorffennaf 24, 2017Mae’r Anifail-Ysbiwyr wedi cyrraedd! Anifail-Ysbiwyr – llu o greaduriaid clyfar sy’n barod i ddatrys pob math o droseddau! Mae’r criw hwn o ffrindiau blewog, llithrig a phluog wedi eu hyfforddi’n arbennig i ddefnyddio’u sgiliau a’u greddf naturiol i ddatrys dirgelion – gyda dogn enfawr o hwyl ar hyd y ffordd. Gadewch i’ch plant ddefnyddio’u dychymyg wrth ddatrys dirgelwch yn eu llyfrgell leol dros wyliau’r haf gyda Sialens Ddarllen yr Haf 2017! Fe fyddan nhw hyd yn oed yn casglu rhai sticeri drewllyd ar hyd y ffordd! Wrth ddarllen dros yr haf, byddant yn gweithio gyda’r Anifail-Ysbiwyr – y casgliad mwyaf cŵl o ddatryswyr drygioni welsoch chi erioed!
Roedd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r awdur Rob Lewis, yn lansio’r Sialens yn swyddogol yng Nghymru yn Llyfrgell Prestatyn, Sir Ddinbych, ddydd Llun 10 Gorffennaf 2017.
Mae darllen plant yn gallu gostwng yn ystod gwyliau’r haf hir os nad ydyn nhw’n cael mynediad rheolaidd at lyfrau ac anogaeth i ddarllen er mwyn pleser. Gall hyn fod yn broblem i ysgolion ar ddechrau’r tymor newydd, ond mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gallu helpu drwy ddenu tri chwarter miliwn o blant o bob rhan o’r DU i lyfrgelloedd dros yr haf. Hwn yw’r unig weithgaredd darllen sy’n rhad ac am ddim, yn cynnwys cynifer o blant, yn cyflwyno teuluoedd i’w llyfrgell leol, yn annog plant i ddewis llyfrau’n rhydd ac yn annibynnol, ac sydd hefyd yn cael ei gymeradwyo gan rieni, athrawon a Llywodraeth Cymru.
Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru’n gwbl hanfodol i lwyddiant y Sialens yng Nghymru. Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi:
“Rwy’n falch iawn o gael lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2017 yng Nghymru. Mae’r her yn cipio dychymyg plant gyda’r thema a ddewiswyd, a gall hyn helpu plant i fwynhau darllen er mwyn pleser.
“Rydym yn gwybod bod sgiliau darllen a llythrennedd yn hanfodol ar gyfer llwyddiant yn ddiweddarach mewn bywyd, ac mae’r ymgyrch hon yn helpu plant a theuluoedd i ymgysylltu â dysgu a diwylliant mewn ffordd hwyliog. Rwy’n annog pob teulu i ymweld â’u llyfrgell leol yr haf hwn i gymryd rhan.”
Trefnir y Sialens ar y cyd rhwng yr elusen The Reading Agency a llyfrgelloedd cyhoeddus, ac fe’i cefnogir yng Nghymru gan y Cyngor Llyfrau a Llywodraeth Cymru. Sialens Ddarllen yr Haf mewn llyfrgelloedd – sy’n cael ei chynnal ers 19 mlynedd bellach – yw’r brif raglen i hybu darllen er mwyn pleser ar gyfer plant oedran cynradd. Yr haf diwethaf, cymerodd mwy o blant Cymru nag erioed ran yn y sialens – 39,222 ohonynt, gyda 44% yn fechgyn – gan ddarllen o leiaf chwe llyfr a fenthycwyd o’u llyfrgell leol. Mae pob un o awdurdodau lleol Cymru’n cynnig cyfle i ymuno yn yr hwyl.
Bob blwyddyn mae’r Sialens yn cynnig thema newydd, a’r thema eleni yw Anifail-Ysbiwyr a ddarluniwyd gan yr arlunydd arobryn Tony Ross. Caiff plant rhwng 4 a 12 oed eu hannog i ddarllen chwech neu ragor o lyfrau o’u dewis eu hunain yn ystod gwyliau’r haf; gyda phob math o bethau difyr i’w hannog ymlaen, mae miloedd o blant yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr hwyl. Mae athrawon yn sylwi bod plant sy’n cymryd rhan yn y Sialens yn dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi yn ddarllenwyr mwy rhugl a hyderus.
Galwch draw yn eich llyfrgell leol, neu ewch i animal-agents.org.uk am ragor o wybodaeth.