Ewch yn Wyrdd yr Wythnos Llyfrgelloedd yma!

 

Yn 2023, bydd Wythnos Llyfrgelloedd yn Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd! 

Mae Wythnos Llyfrgelloedd yn ddathliad blynyddol o’r gorau sydd gan lyfrgelloedd i’w gynnig, a drefnir gan CILIP. Bob blwyddyn dewisir thema, ac mae’r pethau arloesol a rhyfeddol y mae llyfrgelloedd yn eu gwneud i gefnogi eu cymunedau yn cael eu harchwilio. Rhwng yr 2il a’r 8fed o Hydref, rydym yn dathlu’r gwaith sy’n digwydd mewn llyfrgelloedd ledled y DU sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd a newid yn yr hinsawdd.

Partneriaeth Llyfrgelloedd Gwyrdd

Yn ystod y pum mlynedd nesaf, mae CILIP eisiau datblygu rhaglen draws-sector ledled y DU sy’n canolbwyntio ar gyfraniad llyfrgellwyr, gwybodaeth a gweithwyr proffesiynol gwybodaeth i’r agenda cynaladwyedd. Y nod yw annog llyfrgelloedd i fynd ati i leihau eu hôl troed carbon a chynyddu ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol i’r cyhoedd yn ehangach trwy ddarparu adnoddau hygyrch. Mae CILIP wedi sefydlu’r rhaglen hon a bydd yn gwahodd ymarferwyr unigol i ddod yn rhan o’r Rhwydwaith Llyfrgelloedd Gwyrdd i rannu gwybodaeth ac arfer gorau, hyrwyddo ymgysylltu gweithredol, meithrin cysylltiadau newydd a chefnogi ymdrechion ei gilydd.

Datblygwyd Partneriaeth y Llyfrgelloedd Gwyrdd mewn ymateb i COP26 a’r ymrwymiadau hirdymor yn yr hinsawdd a wnaed gan lyfrgelloedd ac awdurdodau lleol.

  • Gweledigaeth CILIP yw dyfodol gwell i’r blaned a phobl, wedi’u grymuso a’u cefnogi gan lyfrgellwyr a gweithwyr llyfrgell.
  • Cenhadaeth CILIP yw gosod llyfrgelloedd wrth galon newid amgylcheddol
  • Pwrpas CILIP yw galluogi llyfrgelloedd i adeiladu gweithredu amgylcheddol o fewn eu cymunedau.

Mae llyfrgelloedd yng Nghymru wedi bod yn chwarae eu rhan i leihau eu hôl troed carbon a chynyddu ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol i’r cyhoedd. Yr Wythnos Llyfrgelloedd hon, rydym eisiau arddangos nifer o’r mentrau gwych yma.

 

WAL WERDD

Mae Llyfrgell Llanelli yn Sir Gaerfyrddin bellach yn gartref i Wal Werdd allanol ddeinamig o blanhigion, gan ddefnyddio system arbennig a ddefnyddir i greu ardal a blannwyd ar arwyneb fertigol, a osodwyd gan ANS Global. Mae llawer o fanteision amgylcheddol i Waliau Byw gan gynnwys dod â gwerth bioamrywiol sylweddol gyda phlannu brodorol, puro aer, ffynonellau neithdar a bwyd, a gwerth buddsoddi wrth i bobl gael eu denu i fannau mwy naturiol, a’r diddordeb maent yn ei ddarparu.

 

 

 

YNNI ADNEWYDDADWY O BANELI SOLAR

Mae paneli solar wedi’u gosod yn Llyfrgell Pencoed a Chanolfan Bywyd Betws, diolch i Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru y llynedd, ac ar ddiwrnodau heulog, maent hyd yn oed yn allforio ynni adnewyddadwy yn ôl i’r grid!

Nid hon yw’r unig fenter i gefnogi cynaladwyedd yn Llyfrgelloedd Awen, gan fod rhaglen dreigl ar hyn o bryd o symud holl lyfrgelloedd yr awdurdod draw i oleuadau LED i leihau’r defnydd o ynni, a chynllun peilot i dynnu siacedi plastig o’r stoc lyfrau, i weld a yw’n effeithio ar gyflwr a hirhoedledd y llyfrau.

 

 

CARDIAU AELODAETH LLYFRGELL DI-BLASTIG

Mae Llyfrgelloedd Awen hefyd wedi dechrau cynllun peilot sy’n cyflwyno cardiau aelodaeth llyfrgell di-blastig, cwbl fioddiraddadwy, gan leihau faint o blastig sy’n mynd i safleoedd tirlenwi! Bu Bardd Plant Waterstones, Joseph Coelho, yn ymweld yn ddiweddar fel rhan o daith o amgylch llyfrgelloedd y DU, a chyflwynwyd y cerdyn llyfrgell eco-gyfeillgar newydd iddo.

 

 

Mae llyfrau nad ydynt bellach yn cael eu defnyddio yn eu llyfrgelloedd yn cael eu hanfon i Factory Books – menter gymdeithasol yng Nglynrhedynog – i’w hailwerthu, eu rhoi i blant yn Affrica, neu eu hanfon i’w hailgylchu. Mae Llyfrgelloedd Awen hefyd yn aelod gweithgar o Books4U, cynllun sy’n darparu mynediad am ddim i lyfrau ar draws llyfrgelloedd cyhoeddus yn Ne Cymru – gwella eu cynnig a lleihau gwastraff!

Bydd gwasanaeth Llyfrgell Wrecsam hefyd yn dechrau defnyddio eu cardiau llyfrgell bioddiraddadwy ‘gwyrdd’ newydd yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd. 

HAFAN AR GYFER BYWYD GWYLLT

Mae Llyfrgell y Rhyl wedi bod yn datblygu gardd gyfeillgar i wenyn, ac yn ystod haf 2023 fe wnaethant greu gwesty bygiau, gan gydweithio â Working Denbighshire, gwasanaeth cyflogadwyedd sy’n cefnogi trigolion Sir Ddinbych sydd mewn perygl o dlodi. Ar ôl casglu llawer o eitemau megis paledi danfoniadau, bocsys cardbord, brics, canghennau a chaniau bambŵ, daeth cyfranogwyr Working Denbighshire ynghyd â staff y llyfrgell i ailgylchu’r deunyddiau a’u defnyddio i greu hafan ar gyfer bywyd gwyllt.

 

YMGYRCH PRIFFYRDD DRAENOGOD

Mae Llyfrgelloedd Caerffili wedi bod yn rhan o’r Ymgyrch Priffyrdd Draenogod a lansiwyd gan dîm Cefn Gwlad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddiogelu’r creaduriaid sydd mewn perygl, gan gynnal pedwar diwrnod gwybodaeth mewn llyfrgelloedd awdurdodau amrywiol i godi ymwybyddiaeth.

Mae Llyfrgell Caerffili hefyd wedi gosod blychau gwennoliaid duon i annog yr adar i nythu, gyda’r gobaith o osod mwy os oes llwyddiant wrth ddenu gwenoliaid duon i’r lleoliad.

CYFNEWID PLANHIGION A HADAU

Mae’r cyfnewidfeydd planhigion a hadau yn llyfrgelloedd Machen a Bedwas, Caerffili, wedi bod yn rhedeg ers nifer o flynyddoedd, ac yn llwyddiannus iawn ac yn boblogaidd iawn gyda chwsmeriaid. 

 

 

AILDDEFNYDDIO STOC SY’N CAEL EI HEPGOR

Mae Llyfrgelloedd Caerffili hefyd wedi bod yn ymwneud â gwerthu stoc sy’n cael ei hepgor i BetterWorld Books fel y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer prosiectau darllen ledled y DU a ledled y byd.

 

 

Dyma rai mentrau ‘gwyrdd’ eraill sy’n digwydd yn Llyfrgelloedd Caerffili:

  • Ailgylchu siacedi llyfrau plastig o hen lyfrau llyfrgell.
  • Mae llawer o lyfrgelloedd yn ganolfannau casglu sbwriel felly gall grwpiau cymunedol fenthyg offer casglu sbwriel o’r Hwb a llyfrgelloedd tref. Gweithio mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus i fenthyg pecynnau casglu sbwriel i grwpiau.

 

 

  • Llwyddodd Llyfrgell Abertridwr i gael pecyn cychwyn Bywyd Gwyllt gan Cadwch Gymru’n Daclus sydd wedi caniatáu i aelod o staff Natalie greu gardd fach ar ardal o dir nas defnyddiwyd wrth fynedfa’r llyfrgell, a fydd, gobeithio, yn ennyn diddordeb gan aelodau’r gymuned a fydd yn barod i rannu eu harbenigedd garddio.

LEND, MEND & TEND!

Ar hyn o bryd mae Llyfrgell Sandfields, Castell-nedd Port Talbot, wrthi’n creu prosiect o’r enw Lend, Mend & Tend.

LEND> Bydd y llyfrgell yn cael ei defnyddio i storio eitemau trydanol i’r gymuned eu benthyca.

MEND>Gwirfoddolwyr a phobl fedrus leol wrth law i atgyweirio eitemau er mwyn osgoi gwastraff.

TEND> Bydd y gymuned leol yn dod at ei gilydd i greu gardd gymunedol ar yr ardal laswellt y tu ôl i’r llyfrgell, a bydd plant lleol hefyd yn rhan o blannu blodau gwyllt a phlanhigion sy’n addas i fywyd gwyllt.  

Mae’r llyfrgelloedd yn cynnig gwybodaeth am ailgylchu a  thomenni ailgylchu. Mae’r llyfrgell hefyd yn fan casglu ar gyfer cyflenwadau ailgylchu.

Mae Llyfrgell Sandfields hefyd yn cynnal sesiynau crefft i blant yn rheolaidd gan weithio gyda’r egwyddor uwchgylchdroi ac ailddefnyddio. Yn ddiweddar, creodd y plant fwydwyr adar allan o hen gartonau llaeth.

 

 

CYDWEITHIO Â CHYFOETH NATURIOL CYMRU

Mae Llyfrgelloedd Gwynedd wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau cymunedol i hyrwyddo cynaliadwyedd, gan gynnwys cydweithrediad â Cyfoeth Naturiol Cymru ar gasgliad o lyfrau ‘Y Llyfrgell Werdd‘ y gellir eu benthyca gyda phecyn yn rhad ac am ddim o hadau blodau gwyllt!

 
 

 

ADEILADU GERDDI LLYFRGELL

Mae gwaith adeiladu a phlannu gerddi naturiol wedi bod yn digwydd yn Llyfrgelloedd Bethesda a Dolgellau yn ddiweddar, a blodau gwyllt wedi’u plannu y tu allan i eraill, gan gynnwys yn Nhywyn, lle mae’r ymwelwyr iau yn cael eu hannog i helpu allan!
 

 

DEFNYDDIO CERBYDAU TRYDAN AR GYFER GWASANAETH LLYFRGELL SYMUDOL

Mae Llyfrgelloedd Gwynedd bellach yn defnyddio cerbyd trydan ar gyfer eu gwasanaeth llyfrgell deithiol ym Meirionnydd, gyda cherbyd ar gael yn Arfon yn y dyfodol agos.
 
Mae’r mentrau canlynol hefyd yn digwydd:
  • Sachau Stori a Gwisgoedd ffansi – ar gael i’w benthyg o’r llyfrgelloedd. Hyn yn arbed i ddefnyddwyr brynu rhai newydd bob tro a’u taflu.
  • Cynhaliwyd gweithgareddau ar y cyd â Dynamic Dunescapes fel rhan o Ddiwrnod Cenedlaethol Twyni Tywod.
  • Grŵp hinsawdd yn cyfarfod yn chwaterol – croes doriad o aelodau staff llyfrgelloedd sy’n trafod ffyrdd o wella ein allyriadau carbon a hyrwyddo cynaliadwyedd.

 

SESIYNAU CREFFT ‘ECO’ I BLANT YN Y LLYFRGELL

Eleni, gwahoddodd Llyfrgell Bedwas ddisgyblion o ysgol Gynradd Ty’n y Wern i wneud terraniwms, a oedd yn llwyddiant ysgubol. Bydd Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr Bedwas yn cynnal Gŵyl Eco yn ystod wythnos hanner tymor mis Hydref (28 Hydref-5 Tachwedd) a bydd Llyfrgell Bedwas yn cynnal digwyddiad terrariwm planhigion arall fel rhan o’r ŵyl, ac yn cyflwyno amser stori gyda thema ecolegol.

 

‘PA MOR WERDD YW EIN BRO’ – SGWRS LLYFRGELL AR FATERION HINSAWDD

Ymunwch â  Harriet Bradshaw, Trevor Price a Dave Rapley am sgwrs ddifyr sy’n procio’r meddwl am faterion hinsawdd ac i drafod y rol maen nhw’n chwarae wrth warchod ein planed. Llyfrgell Penarth, nos Fercher, 25 Hydref 7-8yh. Archebu tocyn ymlaen llaw yn hanfodol.

 

CASGLIADAU O LYFRAU ‘GWYRDD’

Wrth gwrs mae llyfrgelloedd yng Nghymru yn cynnig casgliadau o lyfrau i’w benthyg  sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd, felly gwnewch yn siwr o edrych am y rhain y tro nesaf y byddwch yn y llyfrgell!

 

 

Ewch ar fap Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd!

Rhannwch eich gweithgareddau ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd drwy ychwanegu eich llyfrgell at y Map i rannu gwybodaeth am eich digwyddiadau a’ch gweithgareddau. Gallwch weld pa lyfrgelloedd eraill sydd wedi ymuno â’r ymgyrch a pha ddigwyddiadau maent wedi’u cynllunio.

Gallwch gael y gwybodaeth ddiweddaraf am Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd 2023 drwy ddilyn @librariesweek a rhannwch eich gweithgareddau gan ddefnyddio’r hashnod #WythnosLlyfrgelloeddGwyrdd a #GreenLibrariesWeek.

Cookie Settings