Grant Adnewyddu Cymunedol yn Cyllido Hwb Cymunedol Digidol yn Nhref-y-Clawdd

 

Lleolir Llyfrgell Tref-y-clawdd o fewn Canolfan Gymunedol Tref-y-Clawdd a’r Cylch (Y Comm) yn dilyn cytundeb partneriaeth sy’n dyddio’n ôl i Ragfyr 2017. Mae’r Gwasanaeth Llyfrgell yn darparu cyfleusterau a chefnogaeth TG, iPads ar gyfer eu benthyca, eLyfrau, eLyfrau llafar a chylchgronau digidol yn ogystal â llyfrau. Gall y cyhoedd gael mynediad i wasanaethau’r Cyngor, ac mae’r staff llyfrgell yn helpu’r cyhoedd gydag ystod eang o ymholiadau o bob math. Mae’r gwasanaeth hefyd yn hwyluso digwyddiadau awduron, gyda safle croesawgar a staff proffesiynol cyfeillgar, tra bod y pwyllgor rheoli yn darparu’r safle a’r cymorth gwerthfawr.

Bu 2022 yn flwyddyn gyffrous i Wasanaeth Llyfrgell Powys, gan iddynt lwyddo i gael grant Adnewyddu Cymunedol y DU i dreialu hybiau cymunedol digidol mewn pedair ardal, gan gynnwys Tref-y-Clawdd. Gyda chefnogaeth hael pwyllgor rheoli’r Ganolfan Gymunedol, mae peilot yr hwb digidol yn cyflwyno technoleg cyfarfod hybrid newydd, gan gynnwys sgrin CleverTouch 65″, a thrawsnewidiad yr “ystafell wisgo” gefn llwyfan yn ofod cyd-weithio. Mae’r Llyfrgell hefyd wedi cyflwyno argraffu wedi’i alluogi gan Wi-Fi eleni. Mae’r datblygiadau yma’n ategu gwaith staff y Ganolfan Cymunedol wrth lunio cyfeirlyfr cymunedol lleol a darparu adnodd gwybodaeth ar gyfer yr ardal.

Mae’r Llyfrgell yn cynnal ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau sy’n cynnwys clwb lego misol, sesiynau BSL a fynychir gan Ysgol Tref-y-Clawdd, dosbarthiadau Saesneg i ffoaduriaid, amser stori, canu, crefft a digwyddiadau tymhorol. Mae gan y Gwasanaeth Llyfrgell gynlluniau cyffrous ar gyfer yr Hydref,  gyda sesiynau Ysgol Goedwig dan do/awyr agored, wedi’u hariannu gan y Ganolfan Deuluol, a sesiynau ymchwil yr adnodd hanes teulu Ancestry. Fe wnaeth y Llyfrgell hefyd ddechrau Gŵyl lenyddol gyntaf Tref-y-Clawdd yn 2018, sydd wedi mynd o nerth i nerth ac mae bellach yn cael ei drefnu gan wirfoddolwyr. Roedd yr Ŵyl eleni rhwng 28 Hydref a 6 Tachwedd 2022.

 

     

 

Mae’r Llyfrgell a’r Ganolfan Gymunedol yn cydweithio’n agos er mwyn darparu adnodd bywiog sydd yng nghalon y gymuned yn yr ardal wledig ddiarffordd hon o Bowys. Mae pwyllgor rheoli’r Ganolfan Gymunedol yn rhagweithiol iawn wrth adnabod anghenion ac yna chwilio am ffyrdd o gefnogi pobl leol, gan gynnwys denu cymorth gwirfoddol gwych.

Mae’r Comm yn trefnu ystod eang iawn o wasanaethau a gweithgareddau ochr yn ochr â’r gwasanaeth llyfrgell, gan gynnwys y caffi dydd Mawrth gyda phob math o asiantaethau lleol yn mynychu i gynnig cymorth, cinio am ddim ar ddydd Iau, prosiect gwaith ieuenctid, marchnadoedd Sadwrn, gardd gymunedol, canolfan deuluol, sesiynau aros a chwarae, clwb lego, priodasau a mwy! Mae PAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys) Community Connector hefyd wedi’i leoli yn y Ganolfan.

Wrth i’r tywydd droi’n oerach, mae’r defnydd o’r ystafell gyd-weithio yn codi, ac mae’r staff a’r gwirfoddolwyr wrthi yn cynllunio ystod o weithgareddau hyrwyddo i annog defnydd, gan gynnwys sesiynau galw i mewn digidol a sesiynau ymchwil i deuluoedd. Y gobaith yw gweld pobl yn defnyddio’r offer i weithio’n lleol, ac i fynd i apwyntiadau digidol yn eu hardal leol, er mwyn arbed teithio milltiroedd lawer, hefyd ar  gyfer dysgu a chael hwyl ar y sgrin ryngweithiol!

Cookie Settings