Gwaith Ailgynllunio yn Llyfrgell Treorci

Cwblhawyd gwaith adnewyddu ac ailgynllunio mawr yn Llyfrgell Treorci fel rhan o fuddsoddiad ar y cyd gwerth £150,000 gan Cyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru i wella’r cyfleusterau i ddefnyddwyr a’r gymuned leol.

Mae Llyfrgell Treorci wedi ei leoli yng nghanol y gymuned, gyferbyn â Theatr y Parc a Dare, ac yn cael ei defnyddio’n rheolaidd gan drigolion o bob oed. Mae’r gwaith gwella hyn yn gwneud y llyfrgell yn fwy hygyrch i bob defnyddiwr.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau Cryfach, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol: “Rwyf wrth fy modd bod y gwaith yn Llyfrgell Treorci bellach wedi’i gwblhau, gan wneud y lleoliad yn fwy hygyrch i bob defnyddiwr.

“Mae Llyfrgell Treorci yn parhau i fod yn ganolbwynt i’r gymuned, yn ogystal â’n holl lyfrgelloedd mewn trefi a phentrefi ar draws Rhondda Cynon Taf. Maent yn lleoedd prysur, bywiog a thynnwyd sylw at eu rolau hanfodol yn ein cymunedau yn ystod y pandemig byd-eang, gyda chyflwyno’r gwasanaeth Archebu a Chasglu, sy’n parhau i fod yn boblogaidd heddiw er bod ein holl lyfrgelloedd bellach ar agor unwaith eto.

“Mae’r gwaith buddsoddi hwn yn Llyfrgell Treorci yn cadarnhau ei le yn gadarn yn y gymuned y mae’n ei gwasanaethu, ac rwy’n annog defnyddwyr o bob oed i fwynhau’r lleoliad a’r gwasanaethau y mae’n eu darparu.”

 

tREORCHY library Children's Area

 

Roedd y gwelliannau mewnol yn cynnwys ailgynllunio’r brif dderbynfa yn llwyr, gan ddarparu lle a phwynt gwybodaeth mwy hyblyg i bob defnyddiwr ac ymwelydd.

Mae’r gwaith hefyd yn cynnwys creu oriel amlbwrpas a gofod arddangos ar gyfer arddangos ystod eang o gelf ac arteffactau gweledol a chreadigol, gan weithwyr proffesiynol, grwpiau cymunedol ac unigolion. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn arddangos eu gwaith yn Llyfrgell Treorci ffonio: 01443 773204 neu e-bostio: Treorchy.library@rctcbc.gov.uk

Mae’r brif lyfrgell fenthyca hefyd wedi’i had-drefnu drwyddi draw, ynghyd â chynllun adleoli a dylunio newydd yr ardal boblogaidd i blant, sy’n cynnwys llwyfan newydd y gellir ei ddefnyddio fel gofod perfformio.

Mae’r cyfleusterau TG hefyd wedi’u gwella yn Llyfrgell Treorci, gan greu ystafell TG newydd sbon gydag wyth cyfrifiadur mynediad cyhoeddus ar gael i’w defnyddio, ynghyd â sgrin ryngweithiol fawr.

Darparwyd cyllid ar gyfer y gwelliannau yn Llyfrgell Treorci gan Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru.

Am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf, ewch i dudalen Facebook Llyfrgelloedd RCT neu wefan, Twitter neu Facebook Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Oriau agor Llyfrgell Treorci

Dydd Llun   9am – 6pm; Dydd Mawrth   9am – 7pm

Dydd Mercher   9am – 6pm; Dydd Iau   9am – 6pm

Dydd Gwener   9am – 5pm; Dydd Sadwrn   9am – 1pm.

Cookie Settings