Gwasanaeth eGomics nawr yn cynnig teitlau Disney

Mae Llyfrgelloedd Cymru yn falch o allu cynnig gwasanaeth e-Gomics gwell, o fis Ebrill 2020 ymlaen, i holl ddefnyddwyr llyfrgelloedd Cymru, sef gwasanaeth a fydd yn cynnwys dros 3,500 o deitlau. Bydd y casgliad ehangach yn cynnwys teitlau poblogaidd gan Disney, yn eu plith Frozen, Mulan a Finding Nemo, yn ogystal â chlasuron Marvel fel Spiderman a’r Incredible Hulk a llyfrau comic nodedig eraill fel Transformers, Star Trek a Ghostbusters.

Meddai’r Dirprwy Weinidog dros Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’n wych bod y casgliad comics wedi cael ei uwchraddio wrth i unigolion ar draws Cymru hunan-ynysu. Mae llyfrau comics yn gallu helpu ysgogi darllenwyr hwyrfrydig ac yn gallu rhoi hwb i sgiliau iaith a darllen y plant hynny nad ydynt mor hyderus yn eu gallu i ddarllen. Mae llyfrgelloedd wastad wedi chwarae rôl bwysig drwy Gymru gyfan ac wrth i gymunedau gael eu heffeithio gan Gofid-19, mae’r e-adnoddau a gynigir gan lyfrgelloedd yn adnodd rhagorol i droi atynt. Gobeithio y bydd ychwanegu comics Disney i’r casgliad cyfredol o lyfrau comics yn diddanu plant yn ystod y cyfnod anodd hwn ac yn gefnogaeth iddynt ddatblygu eu sgiliau llythrennedd.”

Dywedodd hefyd y Dr Mel Gibson, Athro Cyswllt, Prifysgol Northumbria ac ysgolhaig comics, “It is lovely to see this free collection of mainstream eComics made available for readers of all ages.”

Mae gallu cynnig y gwasanaeth gwych hwn i’n defnyddwyr yn golygu y bydd ganddynt fwy o ddewis nag erioed, a byddant yn gallu cael gafael ar y deunydd yn syth, heb orfod aros. 

Ceir mynediad i’r casgliad e-Gomics drwy wefan neu ap RBdigital, sydd ar gael am ddim os ydych yn aelod o lyfrgell yng Nghymru. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cookie Settings