Gwasanaeth eGylchgronau RB Digital yn Symud i Overdrive
Ebrill 8, 2021Mae’r gwasanaeth eGylchgronau RB Digital nawr wedi symud draw i Overdrive.
Mae dros 3,000 o gylchgronau poblogaidd bellach ar gael i’w lawrlwytho a’u darllen ar unrhyw ddyfais 24 /7 . Bydd defnyddwyr gyda cherdyn llyfrgell yn gallu darllen cylchgronau digidol ar Libby , yr ap darllen o Overdrive, neu drwy ymweld â gwefan eu hawdurdod llyfrgell . Ymhlith y prif deitlau mae The Economist, National Geographic a Vanity Fair a channoedd o gylchgronau poblogaidd eraill o bob cwr o’r byd.
Nid oes gan cylchgronau digidol trwy Libby unrhyw restrau aros neu geisiadau , ac nid ydynt yn cyfrif tuag at nifer eich benthyciadau. Gallwch hefyd eu hadnewyddu’n hawdd. Gall benthycwyr Llyfrgelloedd Cymru bori rhestrau o gylchgronau o fewn yr ap a chwilio yn ôl fformat i ddod o hyd i deitlau sydd ar gael.
Gall darllenwyr bori a benthyg teitlau yn syth ac yna dechrau darllen am ddim gyda cherdyn llyfrgell dilys. Mae’r gwasanaeth hwn yn gydnaws â’r holl brif gyfrifiaduron a dyfeisiau – iPhone®, iPad®, ffonau a thabledi Android ™ a Chromebook ™. Mae pob teitl yn dod i ben yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod benthyca ac nid oes unrhyw ffioedd hwyr. Gall darllenwyr hefyd lawrlwytho teitlau i Libby i’w defnyddio all-lein.
I ddechrau mwynhau cylchgronau digidol , lawrlwythwch Libby neu ewch i wefan eich awdurdod Llyfrgell.