Gweddnewidiad Cyfoes i Lyfrgell ac Archif Sir Gaerfyrddin

Yn sgil buddsoddiad gwerth 2.6 miliwn mae gennym adeilad Archifau a Llyfrgell o’r radd flaenaf, sy’n rhoi lle blaenllaw i’r Gwasanaethau Diwylliannol yn Sir Gaerfyrddin. Wrth fynd i mewn i Lyfrgell Caerfyrddin, sydd bellach ar ei newydd wedd, caiff cwsmeriaid eu croesawu mewn cyntedd modern, golau ac agored. Yma ceir llyfrgell fywiog a chyfoes i blant, ble gall teuluoedd cyfan ddod ynghyd i wella sgiliau darllen, sgiliau llythrennedd a hyder. Ynghyd â man hunanwasanaeth newydd a seddi cysurus ceir arwyddion digidol blaengar yn y cyntedd sy’n hysbysu’r cwsmeriaid o’r hyn sydd ymlaen yn y llyfrgell ac yn eu cyfeirio at yr holl gyfleusterau.

 

Yn dilyn gwaith adnewyddu a wnaed yn gynharach eleni, ail-agorodd Llyfrgell Gyfeirio Caerfyrddin ym mis Mehefin mewn gwedd arloesol a ffres, gyda thechnoleg o’r radd flaenaf a digon o le i astudio. Cafodd stoc yr adran gyfeirio ei hadolygu’n gyffredinol ac mae bellach yn gasgliad deniadol a chyfoes sy’n ategu eitemau lleol a Chymreig/Eingl-Gymreig y llyfrgell. Mae gan y desgiau a’r mannau astudio newydd socedi pŵer a chysylltiadau USB sy’n galluogi cwsmeriaid i weithio ar eu dyfeisiau eu hunain mewn ardal gysurus a thawel. Mae’r cyfleusterau hyn eisoes wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith myfyrwyr, ac mae pobl fusnes leol yn sôn am y modd y gall llyfrgelloedd ddod â manteision i fusnesau bach yn yr ardal leol. Mae ein Terfynellau PressReader yn ategu copïau ffisegol o bapurau newydd a chylchgronau yn ogystal â chynnig mynediad i lu o wasanaethau ar-lein eraill a ddarperir gan y gwasanaeth llyfrgell. Dros y misoedd diwethaf maent hwythau hefyd wedi cael eu defnyddio’n helaeth wrth i staff helpu preswylwyr sy’n ailymgeisio am eu tocynnau bws – gwasanaeth sydd wedi cael ei werthfawrogi’n fawr.

Fel rhan o’r gwaith adnewyddu, cafodd yr Ystafell TG ei hail-leoli i fan arall ar yr un llawr, gan ganiatáu i’r Ardal Gyfeirio gael ei hagor, ac mae man arddangos newydd wedi’i greu.  Mae dau gabinet arddangos pwrpasol yn darparu man storio diogel ar gyfer arddangosion tra bod y byrddau rhyngweithiol aml-gyfrwng a’r ciosgau cyfoes yn arddangos delweddau o eitemau perthnasol o gasgliadau archifau, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd y Sir er mwyn gwella profiad yr ymwelydd.  Roedd yr arddangosfa gyntaf yn dathlu Eisteddfod Caerfyrddin 1819, sef y gyntaf i roi sylw i Orsedd y Beirdd.  Cymerodd deg dosbarth o blant ysgol, yn ogystal â sawl grŵp oedolion, ran mewn sesiynau a gynhaliwyd gan ein partneriaid arddangos.  Defnyddiodd staff y Llyfrgell offer sgrîn werdd Makerspace er mwyn rhoi elfen uwch-dechnoleg i’r profiad a chafodd pob plentyn lun o’u hunain mewn cadair eisteddfodol wedi ei osod yn erbyn cefndir dramatig. Mae ein hystafell TG newydd yn cynnig ardaloedd astudio, man i gynnal cyfarfodydd grŵp a pharth penodedig ar gyfer Hanes Teuluol. Mae ystafell hyfforddi TG newydd yn hwyluso sesiynau dosbarth a bydd yn cynnig mynediad i argraffwyr 3D fel rhan o gyfleuster Makerspace Caerfyrddin a ddaw yn gynnar yn 2020.

 

Terfynell PressReader

Ar hyn o bryd mae Llyfrgell Caerfyrddin yn croesawu 365k o ymwelwyr bob blwyddyn, sydd, gydag ail-agor yr archifdy Sirol, yn debygol o gynyddu’n sylweddol yn ystod 2020/21. Gan weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae Llyfrgell Caerfyrddin hefyd wedi cael ei dewis yn un o bedwar lleoliad ar draws Cymru i fod yn gartref i Ganolfan Clipiau Archif Ddarlledu Genedlaethol. Bydd deunyddiau sy’n olrhain bron i 100 mlynedd o ddarlledu, gan gynnwys llawer o eiliadau eiconig o hanes a diwylliant Cymru’r 20fed ganrif, ar gael i’r cyhoedd trwy dechnoleg ddigidol, gan ddod ag Archif Ddarlledu Genedlaethol Cymru yn fyw yn Sir Gaerfyrddin.

Mae hwn wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn i gwsmeriaid a staff Llyfrgell Caerfyrddin ac mae’n parhau i fod felly wrth i ni edrych ymlaen at groesawu gwasanaeth archif y Sir i’w gartref newydd sbon yng nghefn adeilad y Llyfrgell y flwyddyn nesaf a sefydlu’r cyfleuster Stordy Creadigol Makerspace nesaf yn y Llyfrgell. Mae Llyfrgell ‘newydd’ Caerfyrddin yn adnodd unigryw a gwerthfawr sy’n taro’r cydbwysedd rhwng darparu man cymdeithasol i ryngweithio a chyfnewid gwybodaeth, man tawel i fyfyrio, man i wneud ac arloesi ac, yn bwysicaf oll, man niwtral at ddefnydd y cyhoedd y gallant ymddiried ynddo.

Cookie Settings