Gweinidog yn ail-agor Llyfrgell Tref-y-clawdd

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas AC wedi ail-agor y llyfrgell gyhoeddus o fewn canolfan gymuned Tref-y-clawdd a’r Fro dydd Iau 15 Chwefror 2018.

Ers mis Rhagfyr y llynedd, mae’r ganolfan wedi bod yn gartref i’r llyfrgell ac yn bartneriaeth lwyddiannus rhwng y pwyllgor rheoli a’r llyfrgell. Gwireddwyd y cynllun trwy gynllun  Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, grant cyfalaf trwy gynllun Grantiau Cyfalaf Trawsnewid Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd gan Lywodraeth Cymru , a nifer o grantiau eraill a chyfraniadau cyfalaf gan Gyngor Sir Powys, Cyngor Tref Tref-y-clawdd, Cymdeithas Cadetiaid ac Adfyddinoedd a Radnor Hills.

Yn croesawu’r Gweinidog i’r llyfrgelloedd oedd Karen Plant, Cadeirydd Pwyllgor Rheoli Canolfan Gymuned Tref-y-clawdd a’r Fro, ac Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris.

Wrth agor y safle’n swyddogol, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae’n bleser cael agor llyfrgell Tref-y-clawdd yn swyddogol o fewn canolfan gymuned heb ei ail. Mae llyfrgelloedd mor bwysig i’n cymunedau lleol ni, ac mae gwaith partneriaeth arloesol fel hyn a rhannu cyfleusterau’n un ffordd o sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i bobl leol, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.”

Ychwanegodd: “Mae manteision i’r holl wasanaethau dan sylw wrth rannu un safle, ac rwy’n gobeithio y bydd y ganolfan ar ei newydd gwedd yn denu mwy o bobl leol i ddod i gael golwg ar y llyfrgell ac elwa o’r hyn sydd ar gael yno.  Rwy wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru’n gallu cefnogi llyfrgelloedd a bod y Gronfa Drawsnewid wedi helpu llyfrgell Tref-y-clawdd i greu canolfan lenyddol fodern a llewyrchus.”

Pobl yn y llyfrgell

Cefn: Cllr Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet ar faterion Llyfrgelloed; y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys; Blaen: Kirsty Williams AC Brycheiniog a Maesyfed; yr Arglwydd Elis-Thomas AC, Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon

Yn dilyn ei anerchiad, diddanwyd y gynulleidfa gan Gantorion Llanfair cyn cael taith o’r adeilad yng nghwmni arweinydd y cyngor, aelodau’r pwyllgor a Kirsty Williams, Aelod Cynulliad Brycheiniog a Maesyfed.

Oddi wrth: Cyngor Sir Powys 

Cookie Settings