Gwirfoddolwyr darllen ifanc yn derbyn tystysgrifau

Mae gr?p o wirfoddolwyr ifanc a helpodd i annog plant i gymryd rhan yn yr her ddarllen yr haf eleni wedi cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion.

Daeth 27 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd ar draws Powys yn ‘Sbardunwyr Darllen’ a buont yn helpu plant rhwng pedair a deuddeg oed i ddewis llyfrau, i wrando arnynt yn darllen a hyd yn oed darllen i’r plant a oedd yn cymryd rhan yn ‘Torri Pob Record’ – Her Ddarllen yr Haf 2015.

Mae’r gwirfoddolwyr gyda’i gilydd wedi gweithio cyfanswm o 139 awr ar draws saith llyfrgell yn hyrwyddo her ddarllen yr haf yn frwd dros yr haf eleni ac hefyd yn trefnu’r seremoni wobrwyo ar gyfer y plant a oedd wedi cwblhau’r her. Erbyn hyn, maen nhw wedi derbyn tystysgrifau gan Wasanaeth Llyfrgell y cyngor am eu hymdrechion.

Eleni, roedd gan lyfrgelloedd y sir y nifer uchaf erioed o blant yn derbyn her ddarllen yr haf. Hefyd, torrodd y Gwasanaeth Llyfrgelloedd ei record ei hun eleni o ran nifer y plant yn cwblhau’r her o’i gymharu â’r llynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Graham Brown, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Llyfrgell,: “Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd ym Mhowys wedi mwynhau Her Ddarllen yr Haf yn y gorffennol fel disgyblion ysgolion cynradd, ond fel sbardunwyr darllen, roeddent yn fodelau rôl darllen ardderchog a brwdfrydig i ddarllenwyr ifanc yr haf hwn a gwnaethant gyfraniad at wella lefelau llythrennedd yn eu cymunedau.

“Hoffwn ddiolch i bawb a wirfoddolodd yr haf hwn ac a helpodd i wneud y fenter yn un llwyddiannus a gwerth chweil. Mae ein Gwasanaeth Llyfrgelloedd am barhau a hyn yn y dyfodol gan ei fod yn cynnig profiad gwerthfawr yn hyrwyddo darllen i blant trwy gydol y flwyddyn.”

Cookie Settings