Gwnewch amser i chi eich hun yr hydref hwn yn eich llyfrgell

Bydd llyfrgelloedd ledled Cymru yn dod yn fyw yn ystod mis Hydref eleni ac yn dangos sut y gallant chwarae rôl allweddol yn ein lles. Ar draws y wlad, bydd llyfrgelloedd yn cynnal digwyddiadau gydag awduron a darlunwyr gwadd, sesiynau darllen grŵp, gweithgareddau addysgol a llenyddiaeth, digwyddiadau cerddorol a llawer mwy i’ch denu yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd (8-13 Hydref).

 

Mae Wythnos Llyfrgelloedd yn ddigwyddiad blynyddol sy’n arddangos yr holl weithgareddau creadigol, arloesol ac amrywiol sydd gan lyfrgelloedd i’w cynnig ac eleni, gyda’r ffocws ar les, byddant yn arddangos sut maen nhw’n dod â chymunedau at ei gilydd, yn goresgyn unigrwydd, yn cynnig gofod ar gyfer darllen a chreadigrwydd ac yn helpu gyda iechyd meddwl.

 

 

Cefnogaeth arobryn

Gyda chymaint yn mynd ymlaen, bydd yr wythnos eleni’n cael ei lansio yn Llyfrgell Y Drenewydd gan yr awdur arobryn Hayley Long, lle bydd hi’n cynnal gweithdy gyda grwp o blant ysgol lleol. Yn ogystal ag ennill gwobr Tir na n-Og ar gyfer ei llyfr, The Nearest Far Away Place, mae hefyd wedi cael ei roi ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr Brilliant Book 2019, ac mae Hayley yn croesawu ffocws Wythnos Llyfrgelloedd eleni’n fawr iawn,

“Mae ein llyfrgelloedd yn adnodd sy’n cael ei danbrisio’n fawr o fewn cymdeithas heddiw gan eu bod yn cynnig cefnogaeth werthfawr i gynifer o bobl. Yn fy llyfrau rwyf wedi ceisio mynd i’r afael â’r materion mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn ein byd modern a sut maen nhw’n delio gyda’r materion a’r pwysau sy’n dod yn sgil y rhain. Gyda’r Wythnos Llyfrgelloedd yn canolbwyntio ar les, mae cydnabyddiaeth o’r angen i gynnig cefnogaeth, cyfeillgarwch, empathi a chyfleoedd i ganiatáu creadigrwydd i ffynnu mewn ffyrdd gwahanol. Rwyf yn teimlo’n freintiedig i chwarae rhan yn yr wythnos ei hun a byddwn yn annog unrhyw un i gymryd yr amser i ymweld â’u llyfrgell leol a gweld beth sydd ganddynt i’w gynnig – efallai y cewch eich synnu ar yr ochr orau.”

 

 

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru wedi gweld cynnydd enfawr yn eu gwasanaethau ac yn ogystal â benthyg llyfrau gallwch hefyd lawrlwytho e-gylchgronau a ffeiliau sain ac mae mwy a mwy ohonynt yn cynnig gofod i bobl ddod i siarad a sgwrsio, yn dilyn nodi unigedd cymdeithasol fel problem yn y gymdeithas.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, yr Arglwydd Elis-Thomas,

“Tra bod Wythnos Llyfrgelloedd yn gyfle gwych i ddarganfod yr amrywiaeth o bethau y gallwch eu gwneud yn eich llyfrgell, o chwarae a dysgu ar gyfer plant, i reoli eich iechyd, defnyddio band eang a gemau rhad ac am ddim, i ddod o hyd i swydd, mae’r ffocws eleni ar les yn ein galluogi i ystyried y rôl ehangach y gall llyfrgelloedd ei chwarae i atgyfnerthu ein cymunedau. Mae nifer o’r llyfrgelloedd yn ganolog i fywydau pobl ac mae ganddyn nhw’r potensial i drawsffurfio’r bywydau hynny drwy ganiatau gofod ar gyfer rhannu profiadau a hyrwyddo cyfleoedd dysgu.

“Rwyf wedi cael cyfleoedd gwych i weld y gwaith rhagorol sydd wedi’i wneud mewn sawl llyfrgell ledled Cymru gyda chymorth gan gronfa trawsnewid Llywodraeth Cymru, lle mae llyfrgelloedd wedi cael y buddsoddiad angenrheidiol i ail-ddyfeisio eu hunain a’u gwneud eu hunain yn berthnasol i fywydau prysur pobl.”

 

Dyfan Dwyfor yn Llyfrgell Porthmadog am Wythnos Llyfrgelloedd

 

Ymhlith y gweithgareddau eraill sy’n cael eu cynnal yr wythnos hon bydd gigiau cerddorol, diwrnod barddoniaeth a darlunio gyda bardd plant Cymru, Casia William a’r darlunydd Valeriane LeBlond a sesiynau ymwybyddiaeth unigryw gyda grwpiau cefnogi dementia a grwpiau cefnogi tebyg mewn llyfrgelloedd ledled y wlad.

Mae Kathryn Parry yn Rheolwr Datblygu ar gyfer CILIP Cymru Wales, y gymdeithas llyfrgelloedd a gwybodaeth ac mae’n credu bod Wythnos Llyfrgelloedd yn bwysig am ei bod yn amlygu gwaith hanfodol parhaus llyfrgelloedd,

 “Mae gweithio i CILIP yn bleser drwy gydol y flwyddyn gan fy mod yn gallu gweld gymaint o broffesiynau’n cael eu cefnogi gan lyfrgellwyr a gweithwyr llyfrgell. Mae dyhead eleni o ganolbwyntio ar les yn berffaith gan ei fod yn adlewyrchu’r amrywiaeth o wasanaethau a gynigir. Mae ein staff llyfrgelloedd yn cefnogi myfyrwyr mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion, ac ar yr un pryd yn cysylltu meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol gyda’r rhai hynny sy’n gweithio yn y llywodraeth i ymchwilio a darparu arweiniad pan mae’n dod i ysgrifennu academaidd a chreu polisïau. Mae’r wythnos hon yn ymwneud â dathlu’r proffesiwn yn ei gyfanrwydd tra’n cofio bod y gwasanaethau hyn yn cael eu cynnig drwy gydol y flwyddyn a hir oes iddo barhau i wneud hynny.”

Mae’r Wythnos Llyfrgelloedd yn gyfle gwych i arddangos pob llyfrgell unigol ledled Cymru a gyda dros 250 o lyfrgelloedd ledled y wlad mewn nifer o ffurfiau a siapiau gwahanol, mawr a bach, ar olwynion neu o fewn pedair wal, mae gymaint i’w ddarganfod.

Am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf, ewch i www.librariesweek.org.uk <http://www.librariesweek.org.uk>

 

Cookie Settings