Hoffech chi arbed £1000 eleni?
Ionawr 18, 2016Fe allech chi arbed cannoedd o bunnaur flwyddyn drwy ymaelodi âch llyfrgell a manteisio ar y gwasanaethau anhygoel sydd ar gael am ddim!
Maer bobl isod i gyd yn ddefnyddwyr rheolaidd ar lyfrgelloedd ledled De Cymru ac maen nhwn awyddus i rannu eu profiadau ac annog mwy o bobl i ymuno âr llyfrgell:
Mary Neck Llyfrgell Aberdâr
Mae Mary Neck, 67 mlwydd oed, yn byw yn Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf. Mewn gwirionedd, mae hi wedi bod yn aelod or gwasanaeth llyfrgelloedd trwy gydol ei hoes. Benthycodd 61 o lyfrau yn 2014 gan arbed £970 tybed faint mae hi wedi llwyddo iw arbed dros y blynyddoedd.
Fel pensiynwr, ni allwn fforddio prynur llyfrau hyn yn ystod y flwyddyn. Felly, rwyn gwerthfawrogir llyfrgell ar staff cyfeillgar sydd mor barod i helpu. Yn ogystal, maen gyfle i mi gwrdd â phobl eraill.
Yn ei changen leol, mae Mary hyd yn oed wedi dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur a bellach maen anfon e-byst yn rheolaidd, siopa dros y we, a defnyddio Skype i gysylltu âi hwyres yng Nghaint. Gwnar cwbl o ganlyniad i gefnogaeth a chymorth ei llyfrgell leol.
Fe wnes i fwynhau dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur a dod yn un or porwyr penwyn! Maen golygu hefyd fy mod yn gallu sgwrsio âm hwyres dros y rhyngrwyd. Maen rhyfeddol!
George Beale Llyfrgell y Fenni
Mae George Beale or Fenni yn defnyddio ei lyfrgell yn ddyddiol bron ar gyfer amryw resymau, yn arbennig:
I ddarllen papurau newydd a chylchgronau lleol a chenedlaethol
I ymchwilio drwy ddefnyddior rhyngrwyd ar llyfrgell gyfeiriol
I anfon a derbyn e-byst
I fenthyca llyfrau
Ar gyfer cynhwysiad cymdeithasol
Mae George yn amcangyfrif y byddai cost y papurau newydd cenedlaethol eu hunain oddeutu £780 y flwyddyn a chost y papurau lleol ychwanegol yn gwneud y cyfanswm dros £900
Yn ogystal, maer defnyddior rhyngrwyd i ymchwilio i hanes ei deulu ac ymchwil arall. Maen bosib y byddai defnyddio hwn gartref yn costio o £250 o leiaf a £10 y mis o danysgrifiad band eang a chost flynyddol dwy wefan achau sydd oddeutu £200 y flwyddyn.
Mae George hefyd yn awyddus i nodi manteision ychwanegol bod mewn awyrgylch cynnes a chroesawgar ynghyd â gwerth difesur cyfarfod nifer o bobl wahanol.
Graham Anderson
Rwyf wedi bod yn ymweld â llyfrgell Rhydypennau ers tua 6 blynedd gydan merch, Gigi, syn awr yn 11 mlwydd oed. Cychwynnodd ein hymweliadau ar llyfrgell gyda min darllen storïau iddi, gan fenthyca nifer o lyfrau yn wythnosol, wrth wrando ar sesiynau stori a chael amser da yn gyffredinol. Wrth iddi dyfu a dechrau darllen, roedd yn mynd â mwy fyth o lyfrau gartref. Ni allaf ddechrau dychmygur gost o brynur llyfrau a byddai peidio â mynd ir llyfrgell yn llai o hwyl.
Mae brawd Gigi, Steen, wedi bod yn aelod or llyfrgell ers iddo allu gwneud hynny. Fel Gigi, roeddem yn darllen yn y llyfrgell, yn mynd a chyfrolau o lyfrau adref, Julia Donaldson, llyfrau lluniau, Tomos y Tanc, darllen cynnar ac ati. Ni fyddai ymuno âr clwb darllen gyda Clare a darllen gydar PCSO Joe wedi digwydd heb y llyfrgell. Sialens yr Haf, darllen llyfrau A chael sticeri! Am fonws!
Rwyf wedi arbed cannoedd o bunnau trwy ddefnyddio adnoddaur llyfrgell, gan brynu nifer o lyfrau wedi eu tynnu o gylchrediad er defnydd preifat ac i fynd i lyfrgell yr ysgol. Ond maer ffrindiau a wnaethom yn y llyfrgell ar hwyl rydym wedii gael ac yn parhau iw gael yno yn amhrisiadwy!
Maer llyfrgellydd wedi amcangyfrif fod cyfanswm arbedion Graham am lyfrau, digwyddiadau a benthyciadau o bosib oddeutu tua £500 yn 2014.
Jeff Parsons
Crefftwr cynnal a chadw 52 mlwydd oed yw Jeff o Gaerdydd.
Allai ond dyfalun fras faint rwyf i wedii arbed yn ariannol dros y blynyddoedd. Yn sicr, maen gannoedd os nad miloedd o bunnau (dros gyfnod fy aelodaeth gyfan). Maer meysydd ar amrywiaeth y gallaf gael mynediad atynt wedi bod mor sefydlog.
Rwyn eithriadol o hoff o gerddoriaeth ac yn mwynhau teithio. Rwyn briod ond does gen i ddim plant. Rwyn byw 10 munud i ffwrdd or llyfrgell felly maen ddelfrydol i mi. Amser maith yn ôl sylweddolais fy mod wedi dysgu mwy yn y llyfrgell na wnes i yn yr ysgol!
Rwyn wirioneddol gredu y dylair unigolyn syn dewis y gerddoriaeth ddarllen yr un cylchgronau â mi a theimlo gwir angerdd amdano hefyd. A dweud y gwir, mae wedi ymdebygu i effaith domino: gwrando ar artistiaid na fyddwn yn meddwl amdanynt o ddydd i ddydd. Rwyn ymdrechu i chwaraer gitâr ar piano. Unwaith eto, rwyf wedi benthyg DVDs tiwtorial im cynorthwy i ddeall strwythur cordiau, gwrthdroadau ac ati.
Rwyn benthyca or llyfrgell fwy neu lai bob wythnos oni bai ein bod ar ein gwyliau! Maer gwasanaeth sydd ar gael ar staff heb ei ail rwyn ei werthfawrogi.
Mae llyfrgell leol Jeff wedi amcangyfrif fod yr hyn mae wedi ei arbed yn ariannol , yn seiliedig ar y 149 o eitemau (ffilmiau, llyfrau, cerddoriaeth) a fenthycodd yn 2014 oddeutu £1170.
Dywedodd Jeff: Wel, rwyn rhyfeddu at faint rwyf wedii arbed. Roeddwn yn gwybod y byddain dda, ond wrth feddwl am gyfanswm fel hwnnw mewn blwyddyn allai ddim dechrau dychmygu faint rwyf wedii arbed yn ystod fy aelodaeth gyfan.
Rick Eaglestone
Mae Rick Eaglestone, 37, yn byw yn y Tyllgoed ac wedi bod yn aelod or gwasanaeth llyfrgell ers iddo fod yn bump oed.
Rwyn darllen dros 60 llyfr y flwyddyn ac maer gwasanaeth llyfrgell wedi arbed crocbris i mi gan fod mwyafrif y llyfrau rwyn eu cael or llyfrgell yn deitlau sydd newydd eu rhyddhau. Rwyn defnyddior llyfrgell hefyd oherwydd rwyn gweld fod gan y staff wybodaeth leol ryfeddol ac rwyf hefyd yn aelod o glwb llyfraur llyfrgell.
Petai Rick wedi prynur 60 teitl newydd eu rhyddhau, byddai hyn wedi costio o leiaf £1000.
Miranda Millett
Bydwraig 30 mlwydd oed yw Miranda- maen byw gydai theulu yng Nghyncoed.
Mae fy mhartner a minnau yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru, felly mae fy mam yn gofalu am ein plentyn ifanc yn aml tra ydym nin gweithio. Mae fy mam a finnau yn mynd âm merch i Lyfrgell Rhydypennau yn aml. Maer lleoliad yn hyfryd i blant o bob oed ac yn berffaith i blant dan bump syn dechrau ymgodymu âr byd tu fas. Mae rhestr enfawr o lyfrau (gyda neu heb grynoddisgiau), deunydd arlunio, celfi cyfforddus ac, wrth gwrs, nifer o ofalwyr-rhieni a phlant sydd ond yn edrych neun mynychu sesiynau stori arbennig.
Mae fy merch fach wedi elwan fawr or awyrgylch cyfeillgar a thawel ac yn casglu ei sticeri ai thystysgrifau yn eiddgar i ddangos y rhan y mae hi wedii chwarae yn y gweithgareddau. Maer Llyfrgell Plant yn ddechrau perffaith i fyd addysg im plentyn ifanc ac yn adnodd gwerthfawr iawn i deuluoedd ar gymdeithas leol.
Drwy fenthyca llyfrau ac adnoddau eraill mae Miranda ai theulu wedi arbed cannoedd o bunnau, wedi cymryd rhan mewn sesiynau rhigymau a gweithgareddau crefft, ond fel y dywed hi, nid ywn ymwneud yn unig â faint rydych yn ei arbed ond faint rydych ar eich ennill.
Hefyd, gallwch ymaelodi âr llyfrgell yn rhad ac am ddim felly dim costau o flaen llaw chwaith! I gael mwy o wybodaeth ymwelwch âch llyfrgell leol neu ewch i
www.llyfrgelloeddcymru.org.
Roha Rafiei
Dim ond chwe blwydd oed yw Roha ac maen ymfalchïo gymaint yn ei llyfrgell fel yr aeth ati i ysgrifennu at ei chyngor lleol (gweler delwedd) mewn ymgais iw atal rhag cau.
Yn ystod 2014, benthycodd Roha 231 o lyfrau. Gan gymryd yn ganiataol fod pris masnachol y llyfrau hyn yn £5.00 y llyfr, mae hi wedi arbed dros £1100.00