Holi Llyfrgellydd
Mae Holi Llyfrgellydd yn wasanaeth ar-lein rhad ac am ddim sy’n eich galluogi i ofyn cwestiwn i dîm ymholiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y mae staff ymholiadau penodol, gwybodus a dwyieithog y Llyfrgell Genedlaethol ar gael i ateb amrywiaeth o eich cwestiynau, dim ond i chi gwblhau’r ffurflen isod. Dylai cwestiynau sy’n ymwneud â materion lleol / gwybodaeth cyffredinol gael eu cyfeirio at eich llyfrgell leol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich llyfrgell agosach, ewch i dudalen Ffeindio’ch Llyfrgell.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn anelu at ateb 90% o’r holl ymholiadau o fewn 10 diwrnod gwaith, ond gall ymholiadau cymhleth, neu rai sy’n ymholiadau Rhyddid Gwybodaeth gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith.
Am fwy o wybodaeth am y math o ymholiadau a atebwyd, ewch i dudalen ymholiadau’r Llyfrgell Genedlaethol. Ar gyfer unrhyw gwestiynau eraill, ewch i dudalen gwestiynau a ofynnir yn aml.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o’r adnoddau a ddarperir ar llyfrgelloeddcymru.org, llenwch y ffurflen ar ein tudalen cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
Mae’r tîm ynholiadau yn cynngig y gwasanaethau canlynol: