Hooky’n Dechrau Odli: Yr arwr rygbi James Hook yn helpu lansio Amser Rhigwm Mawr Cymru y BookTrust
Chwefror 12, 2020Yr wythnos hon, bydd dwy fil ar hugain o blant Cymru yn canu, yn odli ac yn gwenu fel rhan o Amser Rhigwm Mawr Cymru, sef dathliad BookTrust (elusen ddarllen fwyaf y DU) o ganeuon a rhigymau ledled Cymru, gydag arwr byd rygbi Cymru, James Hook, yn rhoi ychydig o gymorth. Bob blwyddyn mae Amser Rhigwm Mawr Cymru yn annog gweithgareddau hwyl a llon gan rannu rhigymau ymhlith plant 0-5 mlwydd oed, yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Mae rhigymau a chaneuon yn helpu datblygu sgiliau siarad, gwrando, cyfathrebu a llythrennedd plant, gwella eu gallu i ganolbwyntio a’u hyder ac, yn bwysicaf oll – joio!
Dywedodd James Hook “Mae magu tri o fechgyn wedi dangos i mi pa mor hwyl yw darllen ac odli gyda’r plant! Rydych chi’n cael ymddwyn fel plentyn eich hun a bod yn ddwl gyda’r rhai bach. Mae cymaint o hwyl i’w gael wrth chwerthin gyda’n gilydd ar ôl darllen a chael chwtsh cyn mynd i gysgu. Dyma un o’r rhesymau pam yr ydw i wedi penderfynu ysgrifennu llyfr i blant a pham hefyd Dwi mor gyffrous i fod yn gweithio gyda BookTrust; i rannu’r gair ac i annog rhagor o deuluoedd i ddarllen ac odli.”
Bydd BookTrust yn cydweithio gyda Cyw, Cyngor Llyfrau Cymru, Llenyddiaeth Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru, PACEY Cymru, NDNA Cymru a’r Mudiad Meithrin i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau mewn llyfrgelloedd, ysgolion, meithrinfeydd a chylchoedd chwarae. Byddant hefyd yn gweithio gyda gofalwyr plant, carchardai a llywodraeth leol er mwyn ysbrydoli plant.
Y flwyddyn hon rydym wedi comisiynu cerdd gan Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru sy’n seiliedig ar y gân Saesneg Twinkle Twinkle Little Star. Enw’r gerdd yw ‘Dewch i odli gyda ni!’, a dyma’r rhigwm perffaith i deuluoedd a phlant ei rannu ac i gael hwyl. Bydd y gerdd yn cael ei chyhoeddi ddydd Mercher 12 Chwefror.
Dywedodd Helen Wales, Pennaeth Booktrust Cymru, ‘Rydym eisiau i blant o Gymru gyfan fwynhau Amser Rhigwm Mawr Cymru. Mae rhannu odlau a chaneuon yn darparu buddion amrywiol tu hwnt; datblygu sgiliau iaith a siarad ac adeiladu hyder i enwi ond rhai. Y peth mwyaf pwysig go iawn yw cael hwyl gyda’n gilydd, gwneud lleisiau dwl, wynebau dwl ac ymddwyn yn ddwl – mae’n wych ar gyfer eich plentyn!’
Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru yn rhan o raglen blynyddoedd cynnar BookTrust Cymru, wedi’i hariannu gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru. Mae rhaglenni fel Dechrau Da a Pori Drwy Stori yn darparu llyfrau am ddim i bob plentyn ynghyd â’r adnoddau i’w helpu i fwynhau llyfrau, darllen ac odli gyda’u teuluoedd, a datblygu sgiliau llythrennedd ac addysgol hollbwysig wrth wneud. Dywedodd Kirsty Williams, Gwenidog Addysg Cymru: “Mae sgiliau llafar, iaith a chyfathrebu’n hanfodol i lwyddiant ein pobl ifanc – nid dim ond yn yr ysgol ond yn hwyrach ymlaen yn eu bywydau hefyd.”
“Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru yn ffordd arbennig o ddatblygu’r sgiliau hyn ac rwy’n annog teuluoedd ledled Cymru i fod yn rhan o’r ymgyrch hon yn ystod yr wythnos.”