Hyb Llyfrgell Rhymni ar ei newydd wedd yn agor ei ddrysau
Ionawr 8, 2024Fe wnaeth y Maer agor Hwb Llyfrgell Rhymni yn swyddogol heddiw, ddydd Llun 8 Ionawr, ar ôl gwaith ailwampio cyffrous diolch i gyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chronfa Trawsnewid Cyfalaf Llywodraeth Cymru.
Mae’r gwelliannau’n cynnwys ailwampio a moderneiddio dau lawr y llyfrgell, yn ogystal â hwb addysg, darllen a chymorth arloesol i drigolion, staff y Cyngor a sefydliadau partner.
Cafodd nifer o nodweddion a’r dyluniad newydd, sydd bellach ar gael at ddefnydd y gymuned, eu penderfynu yn sgil cynnal arolwg Llais y Gymuned gyda thrigolion lleol.
Mae Hwb Llyfrgell Rhymni yn cynnig amgylchedd cymorth cyfannol gan ganiatáu pwynt mynediad i’n trigolion at wasanaethau’r Cyngor. Bydd amrywiaeth o wasanaethau cymorth y Cyngor ar gael i chi siarad â nhw, gan gynnwys Gofalu am Gaerffili, Tîm Treth y Cyngor, Tîm Budd-daliadau’r Cyngor a’r Tîm Ymgysylltu â Chyflogaeth.
Gall cwsmeriaid elwa o fand eang wedi’i uwchraddio, swyddfeydd modern ac ystafelloedd cyfarfod preifat. Mae’r llawr cyntaf wedi’i ddatblygu’n ‘Hwb Dysgu Cymunedol Idris Davies’ sy’n cynnwys gofod dysgu bywiog o’r radd flaenaf a fydd yn dod yn ganolbwynt i barhau i gefnogi’r Gymraeg a Diwylliant Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Chymunedau, “Rydw i wrth fy modd bod Hwb Llyfrgell Rhymni wedi ailagor a bod trigolion y Fwrdeistref Sirol yn gallu manteisio ar y buddion ychwanegol y bydd Hwb Llyfrgell Rhymni yn eu darparu i’r gymuned leol.
“Yn ogystal â’r llyfrgell wych, bydd trigolion yn gallu manteisio ar fynediad at nifer o wasanaethau cymorth y Cyngor. Yn hanesyddol, mae Llyfrgell Rhymni wedi bod yn ganolbwynt i’r gymuned erioed, ond bydd y gwelliannau i’r cyfleuster nawr yn caniatáu i’r adnodd hollbwysig hwn ddod yn gymaint mwy.”
Mae Hwb Llyfrgell Rhymni wedi ailagor heb lifft gweithredol. I’r rhai sydd â symudedd cyfyngedig, bydd gwasanaethau’n cael eu symud i’r llawr gwaelod yn ôl yr angen nes bod y lifft newydd wedi cael ei osod.