Darllen yn Well ar gyfer Iechyd a Lles yng Nghymru

Library User being shown Reading Well books

 

Mae Darllen yn Well yn eich cefnogi chi er mwyn deall a rheoli eich iechyd a lles drwy ddefnyddio darllen sy’n gymorth, sydd ar gael drwy lyfrgelloedd cyhoeddus.

Cymeradwyir y llyfrau i gyd gan arbenigwyr iechyd, yn ogystal â phobl sy’n byw gyda’r anhwylderau sy’n cael sylw, eu perthnasau a’u gofalwyr.

Sut fedra i gael gafael ar y llyfrau?
• Ewch i’ch llyfrgell leol, lle gallwch fenthyca’r llyfr am ddim
• Os nad yw’r llyfr ar gael, gallwch ei archebu
• Mae gan lyfrau Darllen yn Well gyfnod benthyg hirach o 6 wythnos. Gellir adnewyddu llyfrau os hoffech gael mwy o amser i’w darllen

Mae pedwar cynllun Darllen yn Well ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd:

Darllen yn Well ar gyfer Demensia

Lansiwyd llyfrau Darllen yn Well ar gyfer demensia yng Nghymru yn 2018 fel rhan o’r Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Demensia newydd.  Mae’r llyfrau yn rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n byw gyda demensia, cefnogaeth ar gyfer byw yn dda, cyngor i berthnasau a gofalwyr, yn ogystal â llyfrau ffuglen, atgofion a ffotograffau a ddefnyddir mewn therapy hel atgofion.

Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl

Lansiwyd Llyfrau Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru yn 2019. Mae’r llyfrau yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a chefnogaeth ar reoli anhwylderau iechyd meddwl cyffredin neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae rhai llyfrau hefyd yn cynnwys hanesion personol gan bobl sydd yn byw gyda rhywun ag anghenion iechyd meddwl neu syff yn gofalu am rywun felly. Argymhellwyd y llyfrau gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol a phobl sydd â phrofiad o’r cyflyrau a drafodir.

 

Darllen yn Well i Blant

Lansiwyd Darllen yn Well i blant yng Ngymru ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2020 gan y Reading Agency a’r llyfrgelloedd cyhoeddus. Cyhoeddwyd y rhestr ddarllen mewn ymateb i’r galw cynyddol am wybodaeth a chyngor gan arbenigwyr i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles, gyda chasgliadau o lyfrau ac adnoddau ategol ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Mae’r cynllun yn argymell darllen i’ch helpu i ddeall eich teimladau ac ymdopi gydag amser anodd. Dewiswyd y llyfrau gan blant, gofalwyr, arbenigwyr iechyd a llyfrgellwyr. Gallwch ddarllen y llyfrau ar eich pen eich hun neu gydag eraill a siarad am unrhyw un o’r meddyliau a’r teimladau sy’n codi.

 

 

Darllen yn Well ar gyfer yr Arddegau

Mae Darllen yn Well ar gyfer yr arddegau yn awgrymu llyfrau ac adnoddau digidol wedi’u hargymell i’ch helpu i ddeall eich teimladau, ac i hybu eich hyder. Mae pobl ifanc yn eu harddegau ac arbenigwyr iechyd a lles wedi dewis y llyfrau i’ch helpu i reoli eich emosiynau ac ymdopi ar adegau anodd.

Mae’r rhestr lyfrau yn benodol i bobl ifanc 13–18 oed, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o lefelau darllen a fformatau i gefnogi darllenwyr llai hyderus ac ennyn diddordeb. Mae rhai o’r llyfrau sy’n cael eu hargymell yn awgrymu technegau hunangymorth defnyddiol ac yn cynnwys straeon personol, fformatau graffeg a ffuglen. I gyd-fynd â’r llyfrau, mae detholiad o adnoddau digidol safonol sy’n addas i’r oedran. Pobl ifanc, gweithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw a staff llyfrgelloedd sydd wedi dewis y llyfrau.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi The Reading Agency a Chyngor Llyfrau Cymru i ddarparu Darllen yn Well i bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Am fwy o wybodaeth, ewch i reading-well.org.uk/cymru

 

 
 
 
 
Cookie Settings