Lansio Llyfrgell Gymunedol Cerrigydrudion

Partneriaeth gyffrous rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Gr?p Cefnogi Llyfrgell Gymunedol Cerrigydrudion i ddiogelu gwasanaethau llyfrgell yn ardal Uwch Aled.

Bydd allweddi llyfrgell y pentref yn cael eu cyflwyno i Gr?p Cefnogi Llyfrgell Gymunedol Cerrigydrudion heddiw [12/12/14], sy’n dynodi lansiad swyddogol ail lyfrgell gymunedol y Fwrdeistref Sirol.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn parhau i ddarparu gwasanaethau llyfrgell craidd, fel amser staff, llyfrau a chyfrifiaduron, ond bydd y safle yn cael ei reoli gan Gr?p Cefnogi Llyfrgell Gymunedol Cerrigydrudion.

Dywedodd y Cyng. Chris Hughes, Aelod Cabinet Cymunedau Conwy: “Mae’r fenter hon yn rhan o’n prosiect i foderneiddio llyfrgelloedd y sir ac yn darparu gwasanaeth cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.  Bu i ni gyflwyno cais llwyddiannus am arian i Gronfa Allweddol Partneriaeth Wledig Conwy, a oedd yn caniatáu i ni i adnewyddu’r adeilad. Mae’r gwaith hwnnw wedi ei wneud bellach ac rydw i wrth fy modd ein bod ni’n gallu trosglwyddo’r allweddi i’r gr?p. Rydw i hefyd yn falch o weld y model llyfrgell gymunedol yn cael ei gyflwyno ar draws y sir.”

Bydd y gr?p yn cymryd adeilad y llyfrgell drosodd yn swyddogol ar brydles 25 mlynedd. Cymeradwywyd y trosglwyddiad gan y ddau gynghorydd lleol, y bwrdd moderneiddio llyfrgelloedd ac adran gyfreithiol y Cyngor.

Einion Edwards yw Cadeirydd Gr?p Cefnogi Llyfrgell Gymunedol Cerrigydrudion. Dywedodd Einion, “Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi llwyddo i achub ein llyfrgell, sy’n adnodd hanfodol yn yr ardal wledig. Yn ogystal, rydym ni’n gobeithio cynnal sesiynau gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, cefnogi gweithgareddau lleol Cartrefi Conwy a gwneud yr adeilad yn ganolbwynt ar gyfer gwasanaethau cefnogi lleol.”

Mae’r dull partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’r Gr?p yn seiliedig ar Gytundeb Lefel Gwasanaeth cynhwysfawr ac wedi ei gefnogi gan CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru.

Cookie Settings