Llyfrau, yn Aml, yw’r Moddion Gorau: Darllen yn Well ar Bresgriptiwn yng Nghymru
Awst 9, 2019Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Asiantaeth Ddarllen i ddarparu Darllen yn Well ym mhob un o’r 22 awdurdod llyfrgell yng Nghymru.
Mae’r cynllun Darllen yn Well yn cefnogi unigolion i ddeall a rheoli eu hiechyd drwy gyfrwng llyfrau pwrpasol. Bydd swyddogion proffesiynol y maes iechyd yn gallu argymell llyfr i unrhyw un sydd angen mwy o wybodaeth, gan ei gyfeirio at ei lyfrgell leol, lle fydd y llyfrau ar gael.
Ar hyn o bryd, mae pedwar rhestr lyfrau ar gael: Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl, Darllen yn Well ar gyfer dementia, Darllen yn Well ar gyfer pobl ifanc, a Darllen yn Well ar gyfer cyflyrau hirdymor.
Lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer dementia yng Nghymru yn 2018 fel rhan o’r Cynllun Gweithredu Dementia newydd i Gymru. Mae’r llyfrau’n darparu gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n byw gyda dementia, cefnogaeth i fyw’n well, cyngor i berthnasau a gofalwyr, yn ogystal â ffuglen, cofiannau a llyfrau ffotograffau a ddefnyddir mewn therapi hel atgofion. Fe’u cymeradwyir gan weithwyr iechyd proffesiynol a gellir eu benthyg o lyfrgelloedd yng Nghymru.
Fe lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru ar 26 Mehefin 2019. Mae’r cynllun yn darparu gwybodaeth a chymorth defnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae rhai llyfrau hefyd yn cynnwys straeon personol gan bobl sy’n byw gyda rhywun ag anghenion iechyd meddwl neu’n gofalu amdano. Fe’u cymeradwyir hefyd gan weithwyr iechyd proffesiynol a gellir eu benthyg o lyfrgelloedd yng Nghymru.
Mae’r Asiantaeth Ddarllen yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru er mwyn sicrhau bod teitlau ar y rhestrau ar gael yn y Gymraeg am y tro cyntaf, ac mae taflenni defnyddwyr ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg drwy’r Banc Adnoddau Darllen yn Well
“Bydd y cynllun Darllen yn Well yn helpu pobl i ddeall a rheoli eu hiechyd a’u llesiant eu hunain gan ddefnyddio ymyraethau hunangymorth”, dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd. “Mae ein cynllun gweithredu dementia hefyd yn cydnabod pa mor bwysig yw hi fod pobl yn derbyn gofal a chefnogaeth yn eu dewis iaith, felly mae’n bwysig iawn bod y llyfrau hyn hefyd ar gael yn y Gymraeg.”
Mae tystiolaeth eang yn bodoli sy’n profi’r gwerth mae darllen yn rhoi i gefnogi lles a iechyd, yn ogystal â’r gwerth sydd mewn cael gofod llyfrgell sydd yn groesawgar i bobl yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl.
Caiff y rhaglen Darllen yn Well ei hadolygu yn flynyddol er mwyn sicrhau canlyniadau positif. Caiff profiadau gweithwyr proffesiynol yn y byd iechyd, staff llyfrgell a’r defnyddwyr eu dadansoddi, a gwybodaeth ei chasglu drwy fenthyciadau llyfrau a gwerthiant llyfrau. Hyd yn hyn, mae’r cynllun Darllen yn Well wedi cyrraedd dros 931,000 o ddefnyddwyr.
Caiff y cynllun Darllen yn Well ei gyflawni gan yr Asiantaeth Ddarllen mewn partneriaeth â Libraries Connected (yn flaenorol Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru)) ac wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg gan Gyngor Llyfrau Cymru. Fe’i hariennir gan Cyngor Celfyddydau Lloegr a Llywodraeth Cymru.
Am wybodaeth pellach ar y cynllun, ewch i https://reading-well.org.uk/cymru