Llyfrgell Blaenafon yn ail-agor mewn cartref newydd
Medi 3, 2015Mae llyfrgell Blaenafon wedi agor yn ei chartref newydd yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon.
Yr oriau agor fydd 10am 5pm, Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn, gyda mynediad hunan-wasanaeth i ddewis yn gyflym a llyfrau hanes lleol ar ddydd Sul.
Bydd cwsmeriaid hefyd yn medru defnyddio nifer o wasanaethaur cyngor, gan gynnwys y ganolfan gofal cwsmeriaid, ystafelloedd cyfarfod cymunedol, cyfleusterau addysg a dysgu, a chaffi gyda mynediad cyhoeddus ir rhyngrwyd.
Meddair Cynghorydd Lewis Jones, aelod gweithredol dros adfywio: Maer symudiad hwn yn sicrhau gwasanaeth llyfrgell ym Mlaenafon ac maen golygu y medrwn roi gwell gwasanaeth in cwsmeriaid o ben i ben.
Gall cwsmeriaid nawr fwynhau paned wrth ddarllen y papurau newyddion, pori trwyr llyfrau, talur dreth gyngor, archebu blychau ailgylchu a nifer o wasanaethau eraill y cyngor, y cwbl mewn un lleoliad.