Llyfrgell Blaenafon yn ail-agor mewn cartref newydd

Mae llyfrgell Blaenafon wedi agor yn ei chartref newydd yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon.

Yr oriau agor fydd 10am – 5pm, Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn, gyda mynediad hunan-wasanaeth i ddewis yn gyflym a llyfrau hanes lleol ar ddydd Sul.

Bydd cwsmeriaid hefyd yn medru defnyddio nifer o wasanaethau’r cyngor, gan gynnwys y ganolfan gofal cwsmeriaid, ystafelloedd cyfarfod cymunedol, cyfleusterau addysg a dysgu, a chaffi gyda mynediad cyhoeddus i’r rhyngrwyd.

Meddai’r Cynghorydd Lewis Jones, aelod gweithredol dros adfywio: “Mae’r symudiad hwn yn sicrhau gwasanaeth llyfrgell ym Mlaenafon ac mae’n golygu y medrwn roi gwell gwasanaeth i’n cwsmeriaid o ben i ben.

“Gall cwsmeriaid nawr fwynhau paned wrth ddarllen y papurau newyddion, pori trwy’r llyfrau, talu’r dreth gyngor, archebu blychau ailgylchu a nifer o wasanaethau eraill y cyngor, y cwbl mewn un lleoliad.”

Cookie Settings