Llyfrgell Llanrwst yn Ailagor yng Nglasdir
Medi 22, 2021Ydych chi’n barod ar gyfer eich antur ddiwylliannol nesaf?
Yr wythnos hon, fe ailagorodd Llyfrgell Llanrwst yng Nghlasdir – gofod mawr, cyfeillgar i ddarllenwyr, gyda llyfrgell flaenllaw i blant wedi’i dylunio gan Opening the Book, arweinwyr byd-eang ym maes dylunio llyfrgelloedd cyhoeddus.
Mae gan y llyfrgell amrywiaeth eang o lyfrau at ddant pawb, gyda hwb iechyd yn cynnwys llyfrau a gwybodaeth i gefnogi lles corfforol a meddyliol.
Caiff model hwb cymunedol newydd ei ddatblygu yn y llyfrgell, yn gweithio gydag iechyd, y 3ydd sector a phartneriaid eraill y cyngor i gynnig gwasanaethau’n lleol. Bydd cyfrifiaduron a Wi-Fi ar gael yn y llyfrgell i’r cyhoedd eu defnyddio hefyd, gofod arddangos a gofod hyblyg ar gyfer cyfarfodydd, gweithgareddau a gweithdai.
Roedd tîm Llyfrgelloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wrth eu bodd bod Stori Cymru gan y bardd, awdur a chyhoeddwr o Gymru, Myrddin ap Dafydd ac a ddarluniwyd gan yr artist Dorry Spikes, wedi ysbrydoli ardal plant y Llyfrgell yng Nglasdir.
Mae Myrddin ap Dafydd yn hanu o Lanrwst, ac yn berchen ar gwmni cyhoeddi Gwasg Carreg Gwalch sydd wedi ei leoli yn y dref.
Gyda chefnogaeth Myrddin, Dorry a’r cwmni dylunio Agor y Llyfr, mae Llyfrgelloedd Conwy wedi creu llyfrgell flaenllaw i blant. Gellir darganfod ystod eang o lyfrau Cymraeg a Saesneg i blant o bob oed, gyda nodweddion rhyngweithiol i archwilio a sbarduno’r dychymyg. Crewyd gofod adrodd straeon ‘llyfr mawr’ ar gyfer sesiynau amser stori rheolaidd y llyfrgell ac i ysbrydoli sesiynau awdur ac ymweliadau ysgol. Comisiynwyd Dorry i gynhyrchu gwaith celf gwreiddiol ar gyfer nodwedd coetir y plant.
Bu Myrddin hefyd yn garedig iawn yn ysgrifennu cerdd ar gyfer y llyfrgell newydd, a arddangosir ar y wal yn y Llyfrgell.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Baker, Aelod Cabinet y Celfyddydau, Treftadaeth a Diwylliant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Diolchwn i Myrddin am ei gyfraniad i’r Llyfrgell yng Nglasdir. A’i gefnogaeth, ei frwdfrydedd a’i ysbrydoliaeth barhaus i lawer.
“Mae’r Llyfrgell yng Nglasdir yn cynnig hwb cymunedol i drigolion Conwy wledig i gael mynediad at wasanaethau’r cyngor, a llawer mwy, yn nes at adref. Rydym yn falch o’r cyfleusterau sydd gennym, a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig. Mae’r Llyfrgell yn creu cyfleoedd i ddatblygu ein partneriaethau diwylliannol ac iechyd, gan amlygu unwaith eto pam ein bod yn gystadleuydd cryf dros Ddinas Diwylliant y DU 2025.
“Bydd Conwy 2025 yn arloesi dull a yrrir gan y gymuned. Mae Dinas Diwylliant y DU yn ymwneud â chi, trigolion, busnesau ac ymwelwyr sir Conwy – sut y gall diwylliant wneud gwahaniaeth i chi a’ch cymuned. Gall y Llyfrgell yng Nglasdir fod yn galon i’ch cymuned.”
Mae’r broses adleoli wedi gallu digwydd, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, trwy raglen fuddsoddi Trawsnewid Trefi.
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru: “Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn.
“Trwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, rydym ni’n darparu £136 miliwn i barhau i gefnogi adferiad economaidd a chymdeithasol canol trefi a dinasoedd ar hyd a lled Cymru ac mae ein polisi Canol Trefi yn Gyntaf, sy’n rhan greiddiol o gynllun datblygu cenedlaethol Cymru, Cymru’r Dyfodol, yn golygu mai safleoedd yng nghanol trefi a dinasoedd ddylai gael eu hystyried yn gyntaf ar gyfer pob penderfyniad am leoliad gweithleoedd a gwasanaethau.
Beth am alw draw i weld drosoch chi eich hun? Mae’r Llyfrgell yng Nglasdir ar agor:
- Dydd Llun, dydd Iau a dydd Gwener 9:30am – 12:45pm a 2:00pm – 5:00pm
- Dydd Mawrth 9:30am – 1:00pm
- Dydd Mercher 3:00pm – 7:00pm
- Dydd Sadwrn 9:30am – 12:30pm