Llyfrgell Pencoed yn Ailagor yn Swyddogol

 

Mae Llyfrgell Pencoed wedi ailagor yn swyddogol ar ei phenblwydd yn 50oed! 

Yn ystod ei chyfnod byr ar gau, mae’r llyfrgell wedi’i thrawsnewid yn llwyr i fod yn ofod llachar, croesawgar i’r gymuned gyfan ei ddefnyddio a’i fwynhau.

 

 

Diolch i gyllid gan Raglen Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru, mae’r dodrefn wedi’i ddiweddaru gyda mwy o opsiynau symudol fel y gellir defnyddio’r gofod yn hyblyg ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau; mae codennau gwaith newydd ar gyfer y rhai sydd angen mannau tawel i ganolbwyntio ar eu gwaith ysgol neu astudiaethau; ac mae ystafell gyfarfod gymunedol newydd i grwpiau lleol a gwasanaethau cymorth ei llogi.

 

 

Darparodd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sy’n rheoli gwasanaethau llyfrgell ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, arian cyfatebol i osod paneli solar ar y to sy’n wynebu’r de, gan gyfrannu at greu adeilad mwy cynaliadwy.

Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n rhan o wneud i hyn ddigwydd, o’r tîm yn Llyfrgell Pencoed, staff eraill Awen, Cyngor Tref Pencoed – a fu mor garedig â darparu lle i ganiatáu i’r llyfrgell barhau â benthyciadau llyfrau a digwyddiadau drwy gydol yr ailddatblygiad, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am eu cefnogaeth barhaus, a’r rhai sy’n ymwneud â’r cyfnod dylunio ac adeiladu.

 

 

I ddathlu Diwrnod y Llyfr, fe gynhaliodd Llyfrgell Pencoed eu Cwis Ysgol Diwrnod y Llyfr cyntaf erioed, a bydd eu holl weithgareddau arferol – Bownsio a Rhigymau, Clwb Codio, Amser Stori a Chrefft – yn dychwelyd. Byddant hefyd yn dechrau grŵp darllen i oedolion, grŵp sgwrsio Cymraeg a sesiynau ar gyfer addysgwyr yn y cartref. Dilynwch y Tudalen Facebook Llyfrgell Pencoed am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

 
Cookie Settings