Llyfrgell Pwllheli yn Ailagor yn Dilyn Gwaith Adnewyddu Neuadd Dwyfor
Ebrill 4, 2022Mae Llyfrgell Pwllheli wedi ail-agor yn ddiweddar yn dilyn buddsoddiad sylweddol o dros £900,000 er mwyn uwchraddio’r llyfrgell, yn ogystal â chyfleusterau theatr a sinema yn adeilad Neuadd Dwyfor yn y dref.
Fel rhan o’r gwaith adnewyddu, mae dodrefn a silffoedd newydd sbon wedi’u gosod gan gynnwys ardal benodedig atyniadol i blant fydd yn cynnal sesiynau amser stori a rhigymau babanod rheolaidd i blant.
Mae’r llyfrgell hefyd yn symud i oriau agor estynedig, gyda defnyddwyr yn gallu cael mynediad at lyfrau llyfrgell a chyfrifiaduron drwy hunan-wasanaeth, a bydd y bar coffi yn weithredol yn ystod prynhawniau unwaith y bydd rhaglen ffilm yn ei lle.
Gall defnyddwyr llyfrgell hefyd elwa o’r cyfleuster toiled hygyrch ar y llawr gwaelod yn ogystal â’r fynedfa sydd wedi cael ei dylunio i fod yn ofod ar gyfer ymlacio a chymdeithasu. Gellir llogi’r llyfrgell gyda’r nos os yw grŵp neu gymdeithas eisiau hurio’r gofod ar gyfer cyfarfodydd, a chan fod y silffoedd ar olwynion bydd modd gwneud lle yn hawdd i grwpiau.
Dywedodd Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd: “Mae hyn yn gyfnod newydd a chyffrous i Lyfrgell Pwllheli.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am y buddsoddiad sylweddol yma sydd yn sicrhau y byddwn yn gallu cynnig gwasanaeth a chyfleusterau o safon i’n defnyddwyr yn ogystal a datblygu rhaglen newydd o weithgareddau i blant a theuluoedd, ac i oedolion o gwmpas llyfrau a darllen.
“Edrychwn ymlaen hefyd at gydweithio gyda’r Theatr/Sinema yn Neuadd Dwyfor ar brosiectau ar y cyd a fydd yn gwneud y mwyaf o’r gofod braf sydd ar gael yma ac yn sicrhau fod Neuadd Dwyfor yn ganolbwynt bywiog i fywyd diwylliannol yn ardal Llŷn.”
Gall defnyddwyr hefyd archebu llyfrau i’w casglu yn y Llyfrgell ym Mhwllheli. Bydd angen rhif eich cerdyn llyfrgell a PIN. Am fanylion cyswllt ewch i wefan Llyfrgelloedd Gwynedd neu cysylltwch â’r llyfrgell yn uniongyrchol ar e-bost LlPwllheli@gwynedd.llyw.cymru neu drwy ffonio’r tîm ar 01758 612089.