Llyfrgell Symudol Pen-y-bont Ydych chin ymwybodol or holl bethau y mae eich llyfrgell symudol yn eu cynnig?
Medi 2, 2015Yn ogystal â bod yn lle i ddewis llyfr newydd grêt, erbyn hyn fe all pobl leol fanteisio ar wasanaeth Llyfrgell Symudol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont i gael cyngor am ddefnyddio cyfrifiadur a chwblhau pethau ar lein.
Gyda chyfarpar digidol newydd, fe all pobl ddefnyddior rhyngrwyd ar y Llyfrgelloedd Symudol i ateb unrhyw ymholiadau sydd ganddynt, talu biliau a chyflawni tasgau eraill ar lein, er enghraifft bancio dros y we. Fe all pobl gael mynediad at eu hoff gylchgrawn ar lein hefyd a hynny am ddim os ydynt wedi cofrestru âr gwasanaeth llyfrgell.
Maer gwasanaeth Llyfrgell Symudol yn darparu amrywiaeth eang o lyfrau i oedolion a phlant, llyfrau llafar, DVDs a ffynonellau gwybodaeth a gallant hefyd ddarparu llyfrau print bras, ac mae lifft ar gael i bobl syn defnyddio cadeiriau olwynion.
Maen bosib neilltuo unrhyw rai or 350,000 o lyfrau mewn llyfrgelloedd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont yn hollol am ddim, a chael y Llyfrgell Symudol iw danfon atoch. Fe all preswylwyr gofrestru wrth ymweld âu stop lleol os nad ydynt yn aelod or llyfrgell eisoes.
Ar gyfer preswylwyr Blaengarw syn defnyddior Llyfrgell Symudol ar hyn o bryd, sylwch ein bod yn cyflwyno stop newydd a fydd yn gofalu am yr ardal honno. Bydd y Llyfrgell Symudol yn ymweld âr Strand ym Mlaengarw am 9.45am 10.45am ddydd Iau 27 Awst, ac yn dychwelyd bob tair wythnos.
Dywedodd y Cynghorydd Phil White, Aelod Cabinet dros Ofal Cymddeithasol i Oedolion, Iechyd a Lles: Maer Llyfrgelloedd Symudol syn gwasanaethu ein cymunedau yn ddefnyddiol dros ben i breswylwyr syn methu mynd draw i gangen or llyfrgell.
Yn benodol, maen golygu y gall pobl syn cael trafferth symud neu syn cael anhawster gyda chludiant elwa o hyd ar ddefnyddio gwasanaethau llyfrgelloedd ar hyn sydd ganddynt iw gynnig. Maer gliniadur newydd ar cyfleusterau rhyngrwyd yn ychwanegiad gwych gan fod cymaint o bethau erbyn hyn yn haws eu gwneud ar lein.
I gael gweld yr amserlen ar gyfer eich Llyfrgell Symudol agosaf, ewch i http://www1.bridgend.gov.uk/cy/gwasanaethau/llyfrgelloedd.aspx. Os ydych yn gaeth ir t? ac yn awyddus i ddysgu mwy am wasanaeth cyswllt llyfrau llyfrgelloedd, syn gallu danfon llyfrau atoch gartref, ffoniwch 01656 754800 i gael gwybod mwy.