Llyfrgell Symudol Pen-y-bont – Ydych chi’n ymwybodol o’r holl bethau y mae eich llyfrgell symudol yn eu cynnig?

Yn ogystal â bod yn lle i ddewis llyfr newydd grêt, erbyn hyn fe all pobl leol fanteisio ar wasanaeth Llyfrgell Symudol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont i gael cyngor am ddefnyddio cyfrifiadur a chwblhau pethau ar lein.

Gyda chyfarpar digidol newydd, fe all pobl ddefnyddio’r rhyngrwyd ar y Llyfrgelloedd Symudol i ateb unrhyw ymholiadau sydd ganddynt, talu biliau a chyflawni tasgau eraill ar lein, er enghraifft bancio dros y we. Fe all pobl gael mynediad at eu hoff gylchgrawn ar lein hefyd a hynny am ddim os ydynt wedi cofrestru â’r gwasanaeth llyfrgell.

Mae’r gwasanaeth Llyfrgell Symudol yn darparu amrywiaeth eang o lyfrau i oedolion a phlant, llyfrau llafar, DVDs a ffynonellau gwybodaeth a gallant hefyd ddarparu llyfrau print bras, ac mae lifft ar gael i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwynion.

Mae’n bosib neilltuo unrhyw rai o’r 350,000 o lyfrau mewn llyfrgelloedd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont yn hollol am ddim, a chael y Llyfrgell Symudol i’w danfon atoch. Fe all preswylwyr gofrestru wrth ymweld â’u stop lleol os nad ydynt yn aelod o’r llyfrgell eisoes.

Ar gyfer preswylwyr Blaengarw sy’n defnyddio’r Llyfrgell Symudol ar hyn o bryd, sylwch ein bod yn cyflwyno stop newydd a fydd yn gofalu am yr ardal honno. Bydd y Llyfrgell Symudol yn ymweld â’r Strand ym Mlaengarw am 9.45am – 10.45am ddydd Iau 27 Awst, ac yn dychwelyd bob tair wythnos.

Dywedodd y Cynghorydd Phil White, Aelod Cabinet dros Ofal Cymddeithasol i Oedolion, Iechyd a Lles: “Mae’r Llyfrgelloedd Symudol sy’n gwasanaethu ein cymunedau yn ddefnyddiol dros ben i breswylwyr sy’n methu mynd draw i gangen o’r llyfrgell.

“Yn benodol, mae’n golygu y gall pobl sy’n cael trafferth symud neu sy’n cael anhawster gyda chludiant elwa o hyd ar ddefnyddio gwasanaethau llyfrgelloedd a’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig. Mae’r gliniadur newydd a’r cyfleusterau rhyngrwyd yn ychwanegiad gwych gan fod cymaint o bethau erbyn hyn yn haws eu gwneud ar lein.”

I gael gweld yr amserlen ar gyfer eich Llyfrgell Symudol agosaf, ewch i http://www1.bridgend.gov.uk/cy/gwasanaethau/llyfrgelloedd.aspx. Os ydych yn gaeth i’r t? ac yn awyddus i ddysgu mwy am wasanaeth cyswllt llyfrau llyfrgelloedd, sy’n gallu danfon llyfrau atoch gartref, ffoniwch 01656 754800 i gael gwybod mwy.

Cookie Settings