Llyfrgell Wrecsam yn dathlu Noson Lyfrau’r Byd

Mae Noson Lyfrau’r Byd yn mynd ati’n flynyddol i ddathlu darllen a llyfrau ac mae’n cael ei chynnal ledled y byd ar ddydd Iau 23 Ebrill. Bydd llyfrgelloedd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig yn cymryd rhan.

Fel rhan o’r ?yl Eiriau, mae Llyfrgell Wrecsam yn cynnal noson o ddathliadau i hyrwyddo Noson Lyfrau’r Byd trwy wahodd pobl i alw heibio a derbyn llyfr, cael cyfle i sgwrsio ag awduron lleol, clywed gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates AC a gwrando ar y strorïau buddugol yn y gystadleuaeth ysgrifennu creadigol i bobl ifanc.  Bydd lluniaeth ar gael o 6.30pm,

Dywedodd Ann Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell: “Nod Noson Lyfrau’r Byd yw cyfrannu llyfrau ac annog pobl sydd wedi colli’r awydd i ddarllen – neu bobl sydd eto i gael yr ysfa i ddarllen – i gydio mewn llyfr a darllen. Bydd gwirfoddolwyr brwdfrydig yn rhoi cannoedd ar filoedd o lyfrau yn eu cymunedau er mwyn rhannu eu cariad at ddarllen gyda phobl na fyddant yn darllen er pleser, am ba reswm bynnag, nac yn berchen ar lyfrau.

“Os ydych wedi cofrestru i roi llyfrau, os ydych yn un o’r rhai ffodus a fydd yn derbyn llyfr, neu os byddwch yn dod draw i’n digwyddiadau arbennig, gallwch fod yn rhan o rywbeth arbennig iawn a helpu Noson Lyfrau’r Byd i rannu cariad at ddarllen ar hyd a lled Wrecsam ac, yn wir, ar draws Cymru.”

Cookie Settings